Datblygu strategaeth adnoddau, ei rhoi ar waith a’i gwerthuso
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu strategaeth adnoddau, ei rhoi ar waith. a’i gwerthuso. Mae'r strategaeth hon yn gwneud yn siŵr bod ceiswyr gwaith sydd â'r sgiliau priodol yn bodloni gofynion anghenion ac amcanion eich busnes. Mae'n cynnwys nodi anghenion eich sefydliad, adolygu strategaethau presennol yn eu herbyn a threfnu hyfforddiant priodol ar gyfer recriwtio a dethol. Ar ôl datblygu’r strategaeth a’i chymeradwyo, mae'n bwysig cael cynllun gweithredu i’w rhoi ar waith a’i gwerthuso yn erbyn meini prawf llwyddiant y cytunwyd arnynt. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol AD ac arbenigwyr recriwtio sy'n ymwneud â datblygu strategaeth adnoddau, ei rhoi ar waith a’i gwerthuso.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- coladu'r holl strategaethau presennol a'u gwerthuso yn erbyn anghenion sefydliadol
- mireinio’r brand sefydliadol a’r datganiad o werth y gweithwyr
- nodi anghenion cyflogaeth, bylchau sgiliau yn unol â strategaethau ac amcanion sefydliadol
- dyfeisio'r prosesau, y systemau a'r rolau swyddi perthnasol sy’n ofynnol i’w llenwi
- nodi amserlenni priodol ar gyfer datblygu'r strategaeth
- diffinio cynlluniau sefydliadol ar gyfer recriwtio gweithwyr newydd, cadw gweithwyr, a datblygu aelodau presennol y tîm
- adolygu'r rolau a'r llwybrau gyrfa presennol
- alinio'r strategaeth â gofynion cyfreithiol, rheoliadau a chodau ymarfer perthnasol
- ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol i gytuno ar y strategaeth adnoddau
- datblygu cynllun gweithredu manwl a chyllideb ar gyfer rhoi'r strategaeth adnoddau ar waith
- penodi'r hyrwyddwyr adnoddau sy'n gyfrifol am oruchwylio'r strategaeth, llywio a dylanwadu ar y broses roi ar waith
- penodi gweithwyr sy'n gyfrifol am recriwtio a dethol
- dirprwyo gweithgareddau i aelodau'r panel recriwtio a gweithwyr eraill
- sefydlu'r meini prawf llwyddiant y bydd y strategaeth yn cael ei gwerthuso yn eu herbyn
- sefydlu'r amserlenni ar gyfer gwerthuso'r strategaeth
- monitro cydymffurfiaeth barhaus â gofynion cyfreithiol, codau ymarfer a gweithdrefnau'r sefydliad
- casglu data dilys a chynhwysfawr, gan gynnwys adborth gan randdeiliaid
- gwerthuso'r strategaeth yn erbyn y meini prawf llwyddiant y cytunwyd arnynt
- gwneud argymhellion i addasu’r strategaeth neu ei chynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol, y codau ymarfer a'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â recriwtio
- anghenion, bylchau sgiliau ac amcanion eich sefydliad
- sut i sefydlu'r cysylltiad rhwng y strategaeth arfaethedig a nodau ac amcanion y sefydliad
- y gweithdrefnau diogelu cyfrinachedd yn unol â rheoliadau diogelu data
- y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer cael gafael ar wybodaeth a’i chofnodi
- sut i ddatblygu strategaeth adnoddau a’i rhoi ar waith
- y technolegau a'r offer diweddaraf ar gyfer cyrchu, rhag-sgrinio, asesu a chyfweld ceiswyr gwaith
- cynllunio olyniaeth a rheoli ffrwd dalent sefydliadol
- y cynlluniau gwobrwyo a sut maen nhw'n cysylltu â’r strategaeth adnoddau
- effaith y gyllideb ar y strategaeth adnoddau
- y meini prawf perthnasol ar gyfer dethol ac adeiladu'r gronfa dalent sefydliadol
- profiad y ceiswyr gwaith a sut mae'n cysylltu â thechnolegau, gwerthoedd a brand y cyflogwyr
- sut i drefnu hyfforddiant ar gyfer recriwtio a dethol
- y technegau holi a gwrando’n astud
- yr arweiniad gan ffynonellau arbenigedd cydnabyddedig
- y gweithdrefnau a'r canllawiau ar gyfer delio â chwynion gan gyflogwyr a cheiswyr gwaith
- sut i nodi rhanddeiliaid allweddol ac adnoddau ar gyfer rhoi'r strategaeth ar waith
- sut i ddirprwyo gweithgareddau rholi ar waith i hyrwyddwyr adnoddau, panel recriwtio a gweithwyr eraill
- sut i drefnu gweithlu ystwyth, hyblyg ac sy’n gallu addasu i newid
- y materion moesegol a sut i'w datrys
- y meini prawf llwyddiant perthnasol ar gyfer gwerthuso’r strategaeth adnoddau
- sut i ddewis a chymhwyso technegau priodol ar gyfer casglu a dadansoddi data
- sut i werthuso gwybodaeth feintiol ac ansoddol yn erbyn y meini prawf llwyddiant y cytunwyd arnynt
- sut i grynhoi data a’i gyflwyno
- sut i wneud argymhellion i addasu’r strategaeth neu ei chynnal
- pwysigrwydd adolygu'r strategaeth adnoddau yn rheolaidd
- effaith polisïau lleol ar yr adnoddau
- arferion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)
- yr ystyriaethau byd-eang a thrawsddiwylliannol wrth recriwtio