Rheoli risgiau trais ac ymddygiad ymosodol i weithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli risgiau trais ac ymddygiad ymosodol i weithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain. Mae'n cynnwys pob agwedd ar reoli'r amgylchedd gwaith a diogelwch gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain. Mae'n cynnwys adnabod, asesu ac adolygu'r risgiau o drais ac ymddygiad ymosodol sy'n digwydd i weithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio ar ei ben ei hun neu'n gyfrifol am reoli'r risgiau o drais ac ymddygiad ymosodol i weithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r holl beryglon a risgiau sy’n gysylltiedig â gweithio ar eich pen eich hun
- alinio gweithio ar eich pen eich hun â pholisïau a gweithdrefnau'r sefydliad
- nodi gofynion ychwanegol ar stamina corfforol neu feddyliol y gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain
- nodi unrhyw salwch y mae gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain yn ei ddioddef a allai gynyddu risgiau'r swydd
- trefnu cymorth cyntaf i weithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain
- cynnal asesiad risg ar gyfer gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain
- trefnu'r hyfforddiant angenrheidiol a’i roi i weithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain
- lleihau'r risgiau i weithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain drwy reoli a rhoi camau diogelwch perthnasol ar waith
- annog gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain i nodi peryglon ac awgrymu camau priodol i'w hosgoi
- trefnu i oruchwylwyr a rheolwyr cymwys fonitro peryglon gweithio ar eich pen eich hun mewn modd systematig
- cyfathrebu â gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain a’u goruchwylio yn rheolaidd
- ymgynghori â gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain am unrhyw bryderon diogelwch a allai fod ganddynt neu a amlygwyd yn flaenorol
- nodi'r angen am hyfforddiant wedi'i ddiweddaru a'i gyflwyno yn rheolaidd neu pryd bynnag y bydd risgiau neu amodau gwaith yn newid
- trefnu yswiriant perthnasol ar gyfer gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain
- annog gweithwyr unigol i roi gwybod am ddigwyddiadau, gan gynnwys damweiniau a’r rhai y bu ond y dim iddynt ddigwydd o fewn gweithdrefnau sefydliadol
- rhoi cymorth a chyngor i weithwyr unigol i ddatrys eu pryderon neu broblemau
- rhoi cymorth neu gymorth cyntaf i weithwyr unigol yn dilyn digwyddiadau
- adolygu cofnodion digwyddiadau yn rheolaidd i nodi tueddiadau a chamau gweithredu
- adolygu'r polisïau a'r gweithdrefnau i ystyried y gwersi a ddysgwyd
- gwirio a chynnal a chadw cyfarpar a ddefnyddir i leihau risgiau yn rheolaidd
- adolygu'r asesiadau risg, y polisïau a'r gweithdrefnau yn rheolaidd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich dyletswyddau cyfreithiol ar gyfer sicrhau lles, diogelwch ac iechyd yn y gweithle
- y sianeli cyfathrebu yn eich sefydliad
- eich rôl a'ch dyletswyddau, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â rheoli iechyd a diogelwch yn y gwaith
- y ddeddfwriaeth hawliau cyflogaeth, hawliau dynol, anabledd a diogelu data
- y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer rhoi gwybod am anafiadau, clefydau, digwyddiadau perygl
- rolau a chyfrifoldebau'r holl weithwyr yr ydych yn gyfrifol amdanynt
- y gweithwyr sy'n wynebu'r risg fwyaf a'r rhai sydd â chyfrifoldeb penodol am ddiogeledd
- y dulliau ymdrin â sefyllfaoedd sensitif
- goblygiadau cyfreithiol achos o drais yn y gwaith
- gweithdrefnau eich sefydliad mewn perthynas â delio â digwyddiadau a strategaethau ar gyfer ymdrin â sefyllfaoedd treisgar
- y ddeddfwriaeth berthnasol ar weithio ar eich pen eich hun
- y cyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas â gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain
- dyletswyddau eich sefydliad mewn perthynas â hyfforddi, goruchwylio a monitro'r gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain
- cyfrifoldebau cyfreithiol y gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain
- y peryglon posibl a'r graddau risg sy'n gysylltiedig â gweithio ar eich pen ei hun
- y gofynion ychwanegol ar stamina corfforol neu feddyliol y gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain
- yr asesiadau risg mewn perthynas â gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain
- sut i gynnal asesiadau risg ar gyfer gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain
- sut i reoli risgiau i weithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain
- sut i adolygu asesiadau risg
- sut i ddatblygu gweithdrefnau effeithiol ar gyfer rheoli gweithio ar eich pen eich hun
- y mathau o gyfarpar y gellir eu defnyddio i leihau risgiau i weithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain
- y cyfarwyddiadau a'r hyfforddiant sy'n ofynnol ar gyfer gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain
- pam mae'n bwysig cynnal cysylltiad â gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain neu eu goruchwylio’n rheolaidd
- pam mae’n bwysig adolygu polisïau, gweithdrefnau ac arferion gwaith yn rheolaidd
- y ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfer iechyd a diogelwch yn y gwaith
- y cyfrifoldebau cyfreithiol a pholisi a gweithdrefnau eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain
Gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain yw'r rhai sy'n gweithio heb oruchwyliaeth agos neu uniongyrchol. Maent yn gweithio mewn ystod eang o sefyllfaoedd, er enghraifft:
Pobl mewn sefydliadau sefydlog sy’n cynnwys:
- Pobl sy'n gweithio ar eu pennau eu hunain mewn safle penodol, er enghraifft, mewn gweithdai bach, gorsafoedd petrol, ciosgau, siopau a hefyd gweithwyr cartref
- Pobl sy'n gweithio gartref
- Pobl sy’n gweithio ar wahân i eraill, er enghraifft, mewn ffatrïoedd, warysau, rhai sefydliadau ymchwil a hyfforddi, canolfannau hamdden neu ffeiriau
- Pobl sy’n gweithio y tu allan i oriau arferol, er enghraifft, glanhawyr, swyddogion diogeledd, staff cynhyrchu arbennig, gweithwyr cynnal a chadw neu staff atgyweirio
Gweithwyr symudol sy'n gweithio i ffwrdd o'u safle sefydlog:
- Yn gwneud gwaith adeiladu, gosod gweithfeydd, cynnal a chadw a glanhau, atgyweiriadau trydanol, atgyweirio lifftiau, paentio ac addurno, adfer cerbydau
- Gweithwyr amaethyddiaeth a choedwigaeth
- Gweithwyr gwasanaethau, er enghraifft, casglwyr rhent, staff post, gweithwyr cymdeithasol, cynorthwywyr cartref, nyrsys ardal, gweithwyr rheoli plâu, gyrwyr, peirianwyr, penseiri, asiantau tai, cynrychiolwyr gwerthu a gweithwyr proffesiynol tebyg sy'n ymweld ag adeiladau domestig a masnachol
Dylid cydnabod y gall staff fod yn gweithio ar eu pen eu hunain hyd yn oed mewn amgylchedd mwy (lle nad yw gweithwyr eraill yn eu gweld na’u clywed), er enghraifft, staff derbynfeydd, a bod rhai staff yn dod yn weithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain dros dro.
Peryglon i Weithwyr sy’n Gweithio ar eu Pen Eu Hunain
Mae’r peryglon arbennig y gall gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain eu hwynebu yn cynnwys:
- damweiniau neu argyfyngau sy'n deillio o'r gwaith, gan gynnwys cymorth cyntaf annigonol
- salwch sydyn
- darpariaeth annigonol o gyfleusterau gorffwys, hylendid a lles
- trais gan aelodau o'r cyhoedd a/neu dresmaswyr.
Asesiad Risg ar gyfer Gweithwyr sy’n Gweithio ar eu Pen Eu Hunain
Yr allwedd i roi cymaint o ddiogelwch â phosibl lle bynnag y mae gwaith ar eich pen eich hun yn cael ei ystyried yw cynnal asesiad risg boddhaol a ddylai fynd i'r afael â dwy brif nodwedd:
- a oes modd i un person wneud y gwaith yn ddiogel;
- pa drefniadau/rheolaethau sydd eu hangen i wneud yn siŵr nad yw'r gweithiwr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain mewn mwy o berygl na gweithwyr sy'n gweithio gyda'i gilydd.
Dylid adolygu'r asesiad risg yn rheolaidd i wneud yn siŵr ei fod yn ddigonol o hyd.
Camau Rheoli ar gyfer Gweithwyr sy’n Gweithio ar eu Pen Eu Hunain
Gall y rhain gynnwys, er enghraifft:
- Cyfarwyddiadau
- Hyfforddiant
- Goruchwylio
- Cyfarpar diogelu
- Dyfeisiau eraill i roi gwybod am broblemau
- Camerâu fideo/larymau
- Cloeon diogeledd
- Dyfeisiau rhybuddio awtomatig
- Gwirio bod y gweithiwr sy’n gweithio ar ei ben ei hun wedi dychwelyd i'w ganolfan neu gartref yn ôl y disgwyl.
Dyletswyddau Cyfreithiol Cyflogwyr
Er nad oes gwaharddiad cyfreithiol cyffredinol ar weithio ar eich pen eich hun, mae dyletswyddau eang Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati. 1974 yn berthnasol o hyd. Mae'r rhain yn ei gwneud yn ofynnol nodi peryglon y gwaith, asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig, a rhoi camau ar waith i osgoi neu reoli'r risgiau.
Mae angen i gyflogwyr fod yn ymwybodol o unrhyw gyfraith benodol ar weithio ar eich pen eich hun sy'n berthnasol i’w diwydiant (mae enghreifftiau'n cynnwys goruchwyliaeth mewn gweithrediadau plymio, cerbydau sy'n cario ffrwydron, gwaith mygdarthu)
Gweithdrefnau a Pholisïau ar gyfer Gweithio ar eich Pen Eich Hun
Gallai gweithdrefnau/polisïau'r sefydliad ar gyfer gweithio ar eich pen eich hun gynnwys:
- Manylion y gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain. Cydnabod y gall staff fod yn gweithio ar eu pen eu hunain hyd yn oed mewn amgylchedd mwy er enghraifft, staff derbynfeydd, a bod rhai staff yn dod yn weithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain dros dro.
- Gweithdrefnau diogelwch ar gyfer:
- Sut mae manylion lleoliadau, teithio ac amseroedd yn cael eu cofnodi yn y prif leoliad - gwybod ble mae eu staff / ble dylen nhw fod bob amser.
- Pryd mae disgwyl i staff ddychwelyd a sut i wybod lle mae pawb ar ddiwedd shifft.
- Gweithdrefnau ar gyfer trosglwyddo gan oruchwylwyr (manylion clir am bwy sydd ble).
- Pa mor aml y dylai'r gweithiwr gysylltu a rhoi gwybod am newidiadau mewn cynlluniau (trenau hwyr, traffig, oedi).
- Beth i'w wneud os nad yw rhywun lle y dylent fod/nid yw'n dychwelyd pan ddisgwyliwyd.
- Rhoi copi wrth gefn.
- Rhifau ffôn os bydd argyfwng.
- Rhoi cyfarpar diogelu personol addas.
- Cludo a chadw addas.
- Dulliau cyfathrebu - gan gynnwys technoleg i gynorthwyo cyfathrebu.
- Profi cyfarpar cyfathrebu.
- Gwirio cyfarpar, offer ac eitemau trydanol.
- Ymateb i’r argyfyngau "gwaethaf".
- Salwch, damwain ac argyfwng.
- Lleihau'r risg o drais gan y cyhoedd, e.e. rhoi’r gorau i ddefnyddio arian parod, newid llwybr yn gyson wrth gludo pethau gwerthfawr, diogeledd digonol mewn adeiladau ar gyfer gweithio y tu allan i oriau arferol. Dylid ystyried y ffaith y gall menywod a phobl ifanc sy'n gweithio ar eu pennau eu hunain fod mewn perygl arbennig.
- Rhoi cyfleusterau digonol ar gyfer gorffwys, hylendid, lluniaeth, lles a chymorth cyntaf.
- Cyfarwyddiadau sy'n ymwneud â chyfarpar sy’n cael ei gario – mae staff yn aml yn cario cyfarpar gwerthfawr, risgiau ac eitemau gwerthfawr.
- Meysydd parcio – argymhellion diogelwch.
- Gwestai – arferion diogel.
- Gyrru.
- Dulliau diogel o deithio i'r lleoliad ac oddi yno, yn enwedig y tu allan i oriau arferol.
- Gwerthuso ac adolygu gweithdrefnau yn rheolaidd.
- Rhoi gwybod i weithwyr am weithdrefnau.
- Cyfrifoldebau cyfreithiol y cyflogwr a’r gweithiwr.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch www.hse.gov.uk
The Suzy Lamplugh Trust www.suzylamplugh.org
Cymorth i Ddioddefwyr www.victimsupport.org