Cynorthwyo unigolion sy'n gysylltiedig â digwyddiadau treisgar yn y gweithle

URN: INSPMVW10
Sectorau Busnes (Cyfresi): Atal a Rheoli Trais yn y Gweithle
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae'r safon hon yn gysylltiedig â chynorthwyo unigolion sy'n ymwneud â digwyddiadau treisgar. Mae’n cynnwys eich rôl o roi’r cymorth priodol i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan ddigwyddiadau treisgar yn y gwaith, gan gynnwys y rhai y bu’n rhaid iddynt ddefnyddio ymyrraeth gorfforol i leihau trais. Dylai'r cymorth gyd-fynd â rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau statudol a osodwyd gan eich sefydliad. Mae’n ymwneud â gwneud yn siŵr bod cymorth ar gael ar unwaith, yn ogystal ag yn y tymor byr a’r tymor hir. 

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un y mae ei faes cyfrifoldeb yn ymwneud â chynorthwyo unigolion sy'n gysylltiedig â digwyddiadau treisgar yn y gwaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ymchwilio i achosion o drais yn y gwaith
  2. cynnal agwedd dawel, galonogol a diduedd gyda'r rhai a fu'n gysylltiedig â'r digwyddiad
  3. asesu anghenion y rhai sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiad
  4. nodi a yw gweithwyr sydd wedi’u effeithio yn teimlo'n ddiogel, yn dawel eu meddwl ac yn gyfforddus i drafod y digwyddiad a datgelu beth ddigwyddodd
  5. gwirio bod pawb sydd wedi’u heffeithio wedi cael cymorth priodol yn dilyn y digwyddiad
  6. gofyn am gyngor gan weithwyr sy'n gyfrifol am les, diogelwch, iechyd a chymorth parhaus i'r rhai sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiad
  7. cytuno ar drefniadau tymor byr a thymor hir a’u rhoi ar waith gan gynnwys y math o gymorth i alluogi pobl i wella a dychwelyd i ddyletswyddau arferol
  8. cadarnhau pryd i ddychwelyd i'r gwaith neu unrhyw newidiadau i ddyletswyddau arferol
  9. cynnal y lefelau gofynnol o gyfrinachedd a chyfiawnhau'r rhesymau pam y gallai fod angen rhannu gwybodaeth â gweithwyr perthnasol
  10. rhoi gwybodaeth i'r rhai sydd wedi’u heffeithio gan ddigwyddiadau am eu hawliau a'u gweithdrefnau
  11. cofnodi trafodaethau a chytuno ar gamau gweithredu i helpu ymchwiliadau pellach yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol
  12. cysylltu â’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiad i nodi’r cymorth sydd ei angen ar gael
  13. rhoi gwybodaeth am ragor o opsiynau cymorth ac unrhyw weithdrefnau sefydliadol perthnasol
  14. cytuno ar opsiynau ar gyfer trefniadau gwaith yn y dyfodol gyda'r rhai sy'n gysylltiedig a rhoi gwybod i'r uwch-weithwyr
  15. rhoi opsiynau ar waith ar gyfer trefniadau gwaith yn y dyfodol a rhoi gwybod i'r rhai sydd angen cymorth
  16. trefnu'r cyfeiriadau y cytunwyd arnynt
  17. trefnu’r cymorth angenrheidiol ar gyfer unigolion sy’n gysylltiedig â digwyddiadau treisgar
  18. adolygu'r digwyddiadau blaenorol a’r cymorth cysylltiedig gyda'r holl weithwyr perthnasol
  19. cynnwys eich gweithwyr wrth adolygu’r digwyddiad a chyfrannu at fentrau sefydliadol i leihau digwyddiadau yn y dyfodol
  20. cofnodi'r canfyddiadau i gynorthwyo argymhellion a chynlluniau gweithredu sy'n deillio o'r ymchwiliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gweithdrefnau diogelu cyfrinachedd yn unol â rheoliadau diogelu data
  2. eich dyletswyddau cyfreithiol ar gyfer sicrhau lles, diogelwch ac iechyd eich hun a gweithwyr eraill yn y gweithle
  3. y sianeli cyfathrebu yn eich sefydliad
  4. y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer rhoi gwybod am anafiadau, clefydau, damweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd a digwyddiadau peryglus
  5. rolau a chyfrifoldebau'r holl weithwyr yr ydych yn gyfrifol amdanynt
  6. y gweithwyr sy'n wynebu'r risg fwyaf a'r rhai sydd â chyfrifoldeb penodol am ddiogeledd
  7. y dulliau ymdrin â sefyllfaoedd sensitif
  8. goblygiadau cyfreithiol achos o drais yn y gwaith
  9. gweithdrefnau eich sefydliad mewn perthynas â delio â digwyddiadau a strategaethau ar gyfer ymdrin â sefyllfaoedd treisgar
  10. sut i gynnal agwedd bwyllog, galonogol a diduedd gyda phobl dan straen
  11. sut i ddehongli iaith ddi-eiriau am arwyddion o drallod a phroblemau
  12. sut i drafod y digwyddiad mewn modd parchus a chyfrinachol
  13. yr amgylchiadau pan allai fod angen rhannu gwybodaeth am y digwyddiad
  14. effaith trais ar unigolion a phobl eraill sy'n agos atynt
  15. pwysigrwydd sicrhau diogelwch yr unigolion dan sylw i drafod manylion y digwyddiadau
  16. sut i adnabod trallod ac ymateb yn briodol iddo
  17. pryd mae angen trefnu amser i ffwrdd o'r gwaith
  18. effaith uniongyrchol, tymor byr, tymor canolig a thymor hir gweithdrefnau ymchwilio parhaus
  19. yr amgylchiadau pan fo angen ymyriadau corfforol, ataliaeth a grym rhesymol
  20. yr hyfforddiant perthnasol ar gyfer defnyddio ymyriadau corfforol, ataliaeth a grym rhesymol
  21. goblygiadau cyfreithiol a phroffesiynol ymyriadau corfforol, ataliaeth a grym rhesymol
  22. y cyfrifoldebau yn dilyn ymyriadau corfforol, ataliaeth a grym rhesymol
  23. y ffyrdd o leihau risg o niwed yn ystod ymyriadau corfforol, ataliaeth a grym rhesymol
  24. y ffactorau risg sy'n gysylltiedig â defnyddio ymyriadau corfforol, ataliaeth a grym rhesymol
  25. meini prawf eich sefydliad ar gyfer yr hyn sy’n gyfystyr ag ymddygiad annerbyniol
  26. yr ystod o opsiynau cymorth sydd ar gael i weithwyr ar ôl digwyddiad yn y tymor byr, y tymor byr a’r tymor hir
  27. sut a phryd i wneud atgyfeiriadau
  28. pwysigrwydd trafod trefniadau gweithio addas ar ôl digwyddiad
  29. pwysigrwydd cadw cofnodion cywir o bob trafodaeth ac adolygiad
  30. yr asesiadau risg sy'n briodol i'ch gwaith
  31. y ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfer iechyd a diogelwch yn y gwaith
  32. y cyfrifoldebau cyfreithiol a pholisi a gweithdrefnau eich sefydliad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Ymddygiad ymosodol

Unrhyw ymddygiad neu weithredoedd sy’n ceisio niweidio person neu eiddo ffisegol. 

Cyfathrebu ymosodol

Dull cyfathrebu lle mae unigolion yn mynegi eu teimladau a’u barn ac yn eirioli dros eu hanghenion mewn ffordd sy’n amharu ar hawliau pobl eraill.

Gwrthdaro

Sefyllfa lle ceir gwrthwynebiad ac anghytundeb rhwng dau berson neu ragor neu grwpiau o bobl, a nodweddir weithiau gan gam-drin geiriol, ymddygiad bygythiol neu drais corfforol.

Rheoli Gwrthdaro

Yr arfer o nodi gwrthdaro a’i drin mewn modd synhwyrol, teg ac effeithlon. I reoli gwrthdaro mae angen sgiliau megis cyfathrebu effeithiol, datrys problemau, a thrafod gyda phwyslais ar fuddiannau cyffredin a diogelu pawb dan sylw.

Asesiad Risg Dynamig

Mae hwn yn asesiad parhaus o'r risgiau a wynebir mewn sefyllfa wrth iddi ddatblygu i wneud yn siŵr bod yr ymateb mwyaf diogel a mwyaf effeithiol yn cael ei ddefnyddio.

Cyfarpar

Gallai’r rhain gynnwys cyfarpar fel peiriannau galw, ffonau symudol, walkie-talkies, botymau panig, systemau annerch cyhoeddus, ac ati.

Gwerthuso

Y broses o benderfynu a yw eitem neu weithgaredd yn bodloni meini prawf penodol.

Gall gynnwys cymharu digonolrwydd polisïau a gweithdrefnau ag arferion cyfredol neu safonau proffesiynol i reoli trais sy’n gysylltiedig â gwaith.

Asesiad Risg Generig

Dyma:

  • archwiliad o'r gwaith a gweithgareddau'r gweithle i nodi beth allai achosi niwed i bobl (perygl); ac
  • asesiad o’r posibilrwydd, uchel neu isel, y gallai rhywun gael ei niweidio gan y peryglon a nodwyd, yn ogystal ag awgrym o ba mor ddifrifol y gallai’r niwed fod (y risg).

Ar sail yr asesiad hwn gwneir penderfyniad ynghylch pa gamau atal neu reoli y dylid eu cymryd i atal y posibilrwydd o niwed.

Ymyrraeth Gorfforol

Dylai hyn gynnwys technegau diogelwch personol i leihau effaith ymddygiadau peryglus, safiadau amddiffynnol, ymddieithrio a thechnegau ymwahanu” (wrth ymateb i ymddygiadau bygythiol yn gorfforol neu amddiffyn eich hun neu rywun arall) neu “dechnegau atal” (wrth gyfyngu’n gorfforol ar symudiad person).

Amgylchedd Gwaith a Diwylliant Positif

Amgylchedd gwaith a diwylliant nad yw'n goddef unrhyw ymddygiad treisgar.

Gweithdrefnau

Cyfres o gamau mewn trefn bendant a rheolaidd sy'n rhoi polisi ar waith.

Rhagofalon

Gallai’r rhain gynnwys: rhwystrau amddiffynnol, dillad amddiffynnol, ymatebion diogeledd, gweithio mewn parau neu dimau yn lle gweithio ar eich pen eich hun, ac ati.

Person Cyfrifol

Person a enwir yng ngweithdrefnau’r sefydliad fel un sydd â chyfrifoldeb dros achosion o drais yn y gwaith.

Risg

Risg yw’r tebygolrwydd o niwed posibl o ganlyniad i wireddu’r perygl o dan sylw.

Mae maint y risg yn dibynnu ar:

  • y tebygolrwydd y bydd y niwed hwnnw'n digwydd;
  • difrifoldeb posibl y niwed hwnnw, h.y. unrhyw anaf neu effaith andwyol ar iechyd o ganlyniad i’r niwed; a’r
  • boblogaeth a allai gael ei heffeithio gan y perygl, h.y. nifer y bobl a allai fod yn agored i’r perygl.

Ffynhonnell: Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) “Rheoli iechyd a diogelwch yn y gwaith – Côd Ymarfer ac Arweiniad Cymeradwy”. 

Arferion Gwaith Diogel

Dulliau diogel sefydledig o gynnal gweithgareddau, gweithdrefnau neu dechnegau a ddefnyddir wrth gyflawni eich swydd neu weithgareddau gwaith i gyflwyno gwasanaeth sydd â'r lefelau ansawdd ac effeithlonrwydd sy'n ofynnol gan y sefydliad.

Defnyddwyr Gwasanaethau

Er enghraifft: myfyrwyr ysgol, cleifion, cleientiaid, teithwyr, cwsmeriaid, carcharorion, y cyhoedd, rhieni, gwirfoddolwyr a gofalwyr.

Sbardunau Trais

Ffactorau a allai achosi trais. Gellir eu categoreiddio yn ôl pedwar math gwahanol:

  • ffactorau personol dros dro er enghraifft, defnyddiwr y gwasanaeth yn anghyfforddus oherwydd diffyg bwyd, cynhesrwydd, golau, neu ymddwyn yn heriol o dan ddylanwad diod neu gyffuriau, neu
  • ffactorau personol parhaus megis iechyd meddwl sy'n gwaethygu, anhawster neu anabledd, sy'n atal cyfathrebu, symudiad neu ymddygiad arferol, neu
  • ffactorau amgylcheddol dros dro fel ystafell boeth, swnllyd, orlawn, dynameg gwaith gwael o ran cynllun dodrefn, ac ati, neu
  • ffactorau amgylcheddol parhaus megis disgwyliadau gormodol gan ddefnyddiwr y gwasanaeth, neu bod ansawdd y gwasanaeth a gynigir yn methu’n gyson â bodloni safonau gofynnol y defnyddiwr.

Trais sy'n Gysylltiedig â Gwaith

Dyma ddiffiniad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch o drais sy’n gysylltiedig â gwaith: “Unrhyw ddigwyddiad lle mae person yn cael ei gam-drin, ei fygwth neu yr ymosodir arno mewn amgylchiadau sy’n ymwneud â’i waith’.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2030

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills CFA

URN gwreiddiol

CFAPMVW8

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr personél, hyfforddiant a chysylltiadau diwydiannol, o swyddogion personél a chysylltiadau diwydiannol, Rheolwyr ac Uwch-swyddogion, Cynrychiolwyr Undebau Llafur a Gweithwyr Proffesiynol

Cod SOC

1135

Geiriau Allweddol

Atal; Rheoli; Trais; Digwyddiadau; Gwaith