Rhoi polisïau a gweithdrefnau ar waith i leihau'r risgiau o drais yn y gweithle

URN: INSPMVW06
Sectorau Busnes (Cyfresi): Atal a Rheoli Trais yn y Gweithle
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi polisïau a gweithdrefnau ar waith i leihau'r risgiau o drais yn y gweithle. Mae'n cynnwys y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i wneud yn siŵr bod y camau a'r canllawiau ar waith i leihau trais yn y gwaith, gan wneud yn siŵr bod rheolwyr a gweithwyr eraill yn dilyn y gweithdrefnau ac yn cael eu paratoi'n briodol i wneud hynny. Mae hefyd yn cynnwys adolygu sut y rhoddir gweithdrefnau ar waith ar gyfer atal trais yn y gwaith. 

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gyfrifol am roi polisïau a gweithdrefnau ar waith sy'n ymwneud â lleihau trais yn y gwaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. penodi pobl gyfrifol i reoli adroddiadau o achosion posibl a gwirioneddol o drais
  2. cofnodi cwynion neu ddigwyddiadau y mae defnyddwyr gwasanaethau, ymwelwyr a gweithwyr wedi rhoi gwybod amdanynt
  3. cyfrannu at leihau risgiau o drais i weithwyr drwy ddilyn yr holl gamau ataliol priodol
  4. cyfrannu at gynnal diogelwch gweithwyr
  5. rhoi cyfarpar priodol i weithwyr sydd mewn perygl o drais i alw am gymorth ar unwaith
  6. rhoi hyfforddiant perthnasol i'r holl weithwyr i leihau'r risgiau o drais
  7. rhoi gwybod i weithwyr am ddulliau asesu lefelau risg a rheoli sefyllfaoedd bygythiol
  8. rheoli digwyddiadau y mae gweithwyr yn rhoi gwybod amdanynt ac sy'n cael eu rhoi ar waith gan bobl berthnasol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  9. briffio'r holl weithwyr am weithdrefnau gwacáu os bydd digwyddiad difrifol a thechnegau ymhwahanu
  10. trefnu cyfleoedd i ymarfer gweithdrefnau cyn i weithwyr wynebu sefyllfaoedd anodd
  11. rhoi cymorth priodol i unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan drais yn y gwaith
  12. adolygu effeithiolrwydd gweithdrefnau ataliol yn rheolaidd
  13. cadarnhau cymhwysedd ac ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau'r sefydliad, sy'n ofynnol o'r rhai sydd â chyfrifoldebau penodol dros ddiogelwch
  14. asesu nifer yr achosion o ymddygiad annerbyniol drwy ddadansoddi cofnodion
  15. nodi patrymau mewn digwyddiadau treisgar yn seiliedig ar y mathau o gyfrifoldebau, rolau, lleoliadau a gweithgareddau dan sylw
  16. coladu manylion ychwanegol am unigolion dan sylw, sbardunau trais, rhagofalon a'r canlyniadau
  17. trafod gyda gweithwyr perthnasol sut mae'r risgiau o drais yn y gwaith yn cael eu rheoli
  18. monitro canlyniadau hyfforddiant perthnasol ac asesu unrhyw anghenion hyfforddi pellach
  19. cofnodi canlyniadau'r adolygiad a diwygio polisïau a gweithdrefnau
  20. cynnal ymgynghoriadau â gweithwyr a chael sêl eu bendith ar bolisïau a gweithdrefnau
  21. rhoi gwybod am newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau i'r holl weithwyr

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gweithdrefnau diogelu cyfrinachedd yn unol â rheoliadau diogelu data
  2. eich dyletswyddau cyfreithiol ar gyfer sicrhau lles, diogelwch ac iechyd eich hun a gweithwyr eraill yn y gweithle
  3. y sianeli cyfathrebu yn eich sefydliad
  4. y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer rhoi gwybod am anafiadau, clefydau, damweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd a digwyddiadau peryglus
  5. rolau a chyfrifoldebau'r holl weithwyr yr ydych yn gyfrifol amdanynt
  6. hawliau unigolion a sut gall yr hawliau hyn gael eu heffeithio mewn sefyllfaoedd treisgar
  7. y gofynion hyfforddi i weithwyr
  8. yr amgylchiadau pan fo ymyrraeth gorfforol yn angenrheidiol
  9. y swyddogion cyfrifol am gofnodi achosion posibl a gwirioneddol o drais yn y gwaith
  10. y gweithdrefnau ar gyfer prosesu sylwadau, canmoliaeth a chwynion ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau, ymwelwyr a gweithwyr
  11. y mathau o ragofalon a chyfarpar cyfathrebu i'w defnyddio gan weithwyr sydd mewn perygl uniongyrchol o drais
  12. lefelau cymorth a chyngor i'r rhai sydd wedi’u heffeithio gan drais yn y gwaith
  13. sut i gynnal adolygiad manwl o bolisïau a gweithdrefnau
  14. y gofynion o ran cymhwysedd ar gyfer diogelwch ac asesiad o lefelau risg
  15. cyfrifoldebau gweithwyr sydd fwyaf mewn perygl ac effaith y gweithdrefnau ar gyflawni eu dyletswyddau
  16. pwysigrwydd gwirio bod polisïau a gweithdrefnau yn addas i'r diben ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol
  17. pan fydd yn briodol newid y polisïau a'r gweithdrefnau yn unol â gofynion gweithwyr
  18. y dulliau sicrhau cydymffurfiaeth lawn â'r diwygiadau
  19. y ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfer iechyd a diogelwch yn y gwaith
  20. rheolau ac arferion defnyddio cyfryngau cymdeithasol a dulliau cyfathrebu ar-lein
  21. y cyfrifoldebau cyfreithiol a pholisi a gweithdrefnau eich sefydliad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Ymddygiad ymosodol

Unrhyw ymddygiad neu weithredoedd sy’n ceisio niweidio person neu eiddo ffisegol. 

Cyfathrebu ymosodol

Dull cyfathrebu lle mae unigolion yn mynegi eu teimladau a’u barn ac yn eirioli dros eu hanghenion mewn ffordd sy’n amharu ar hawliau pobl eraill.

Gwrthdaro

Sefyllfa lle ceir gwrthwynebiad ac anghytundeb rhwng dau berson neu ragor neu grwpiau o bobl, a nodweddir weithiau gan gam-drin geiriol, ymddygiad bygythiol neu drais corfforol.

Rheoli Gwrthdaro

Yr arfer o nodi gwrthdaro a’i drin mewn modd synhwyrol, teg ac effeithlon. I reoli gwrthdaro mae angen sgiliau megis cyfathrebu effeithiol, datrys problemau, a thrafod gyda phwyslais ar fuddiannau cyffredin a diogelu pawb dan sylw.

Asesiad Risg Dynamig

Mae hwn yn asesiad parhaus o'r risgiau a wynebir mewn sefyllfa wrth iddi ddatblygu i wneud yn siŵr bod yr ymateb mwyaf diogel a mwyaf effeithiol yn cael ei ddefnyddio.

Cyfarpar

Gallai’r rhain gynnwys cyfarpar fel peiriannau galw, ffonau symudol, walkie-talkies, botymau panig, systemau annerch cyhoeddus, ac ati.

Gwerthuso

Y broses o benderfynu a yw eitem neu weithgaredd yn bodloni meini prawf penodol.

Gall gynnwys cymharu digonolrwydd polisïau a gweithdrefnau ag arferion cyfredol neu safonau proffesiynol i reoli trais sy’n gysylltiedig â gwaith.

Asesiad Risg Generig

Dyma:

  • archwiliad o'r gwaith a gweithgareddau'r gweithle i nodi beth allai achosi niwed i bobl (perygl); ac
  • asesiad o’r posibilrwydd, uchel neu isel, y gallai rhywun gael ei niweidio gan y peryglon a nodwyd, yn ogystal ag awgrym o ba mor ddifrifol y gallai’r niwed fod (y risg).

Ar sail yr asesiad hwn gwneir penderfyniad ynghylch pa gamau atal neu reoli y dylid eu cymryd i atal y posibilrwydd o niwed.

Ymyrraeth Gorfforol

Dylai hyn gynnwys technegau diogelwch personol i leihau effaith ymddygiadau peryglus, safiadau amddiffynnol, ymddieithrio a thechnegau ymwahanu” (wrth ymateb i ymddygiadau bygythiol yn gorfforol neu amddiffyn eich hun neu rywun arall) neu “dechnegau atal” (wrth gyfyngu’n gorfforol ar symudiad person).

Amgylchedd Gwaith a Diwylliant Positif

Amgylchedd gwaith a diwylliant nad yw'n goddef unrhyw ymddygiad treisgar.

Gweithdrefnau

Cyfres o gamau mewn trefn bendant a rheolaidd sy'n rhoi polisi ar waith.

Rhagofalon

Gallai’r rhain gynnwys: rhwystrau amddiffynnol, dillad amddiffynnol, ymatebion diogeledd, gweithio mewn parau neu dimau yn lle gweithio ar eich pen eich hun, ac ati.

Person Cyfrifol

Person a enwir yng ngweithdrefnau’r sefydliad fel un sydd â chyfrifoldeb dros achosion o drais yn y gwaith.

Risg

Risg yw’r tebygolrwydd o niwed posibl o ganlyniad i wireddu’r perygl o dan sylw.

Mae maint y risg yn dibynnu ar:

  • y tebygolrwydd y bydd y niwed hwnnw'n digwydd;
  • difrifoldeb posibl y niwed hwnnw, h.y. unrhyw anaf neu effaith andwyol ar iechyd o ganlyniad i’r niwed; a’r
  • boblogaeth a allai gael ei heffeithio gan y perygl, h.y. nifer y bobl a allai fod yn agored i’r perygl.

Ffynhonnell: Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) “Rheoli iechyd a diogelwch yn y gwaith – Côd Ymarfer ac Arweiniad Cymeradwy”. 

Arferion Gwaith Diogel

Dulliau diogel sefydledig o gynnal gweithgareddau, gweithdrefnau neu dechnegau a ddefnyddir wrth gyflawni eich swydd neu weithgareddau gwaith i gyflwyno gwasanaeth sydd â'r lefelau ansawdd ac effeithlonrwydd sy'n ofynnol gan y sefydliad.

Defnyddwyr Gwasanaethau

Er enghraifft: myfyrwyr ysgol, cleifion, cleientiaid, teithwyr, cwsmeriaid, carcharorion, y cyhoedd, rhieni, gwirfoddolwyr a gofalwyr.

Sbardunau Trais

Ffactorau a allai achosi trais. Gellir eu categoreiddio yn ôl pedwar math gwahanol:

  • ffactorau personol dros dro er enghraifft, defnyddiwr y gwasanaeth yn anghyfforddus oherwydd diffyg bwyd, cynhesrwydd, golau, neu ymddwyn yn heriol o dan ddylanwad diod neu gyffuriau, neu
  • ffactorau personol parhaus megis iechyd meddwl sy'n gwaethygu, anhawster neu anabledd, sy'n atal cyfathrebu, symudiad neu ymddygiad arferol, neu
  • ffactorau amgylcheddol dros dro fel ystafell boeth, swnllyd, orlawn, dynameg gwaith gwael o ran cynllun dodrefn, ac ati, neu
  • ffactorau amgylcheddol parhaus megis disgwyliadau gormodol gan ddefnyddiwr y gwasanaeth, neu bod ansawdd y gwasanaeth a gynigir yn methu’n gyson â bodloni safonau gofynnol y defnyddiwr.

Trais sy'n Gysylltiedig â Gwaith

Dyma ddiffiniad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch o drais sy’n gysylltiedig â gwaith: “Unrhyw ddigwyddiad lle mae person yn cael ei gam-drin, ei fygwth neu yr ymosodir arno mewn amgylchiadau sy’n ymwneud â’i waith’.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2030

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills CFA

URN gwreiddiol

CFAPMVW5

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr personél, hyfforddiant a chysylltiadau diwydiannol, o swyddogion personél a chysylltiadau diwydiannol, Rheolwyr ac Uwch-swyddogion, Cynrychiolwyr Undebau Llafur a Gweithwyr Proffesiynol

Cod SOC

1135

Geiriau Allweddol

Atal; Rheoli; Trais; Polisi; Gweithdrefnau; Risg; Gwaith