Gweithredu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol yn dilyn achosion o drais yn y gwaith

URN: INSPMVW04
Sectorau Busnes (Cyfresi): Atal a Rheoli Trais yn y Gweithle
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithredu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol yn dilyn achosion o drais yn y gwaith. Mae'n cynnwys y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i wneud yn siŵr bod yr wybodaeth angenrheidiol yn cael ei chyfleu i'r gweithwyr perthnasol tra'n cynnal cyfrinachedd priodol a bod y gweithdrefnau dilynol yn cael eu rhoi ar waith.

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd angen gweithredu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol ar ôl digwyddiad o drais yn y gwaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. casglu a chofnodi’r ffeithiau sy’n ymwneud ag achosion o drais yn y gwaith
  2. cynnal ymchwiliad yn dilyn achosion o drais yn y gwaith
  3. cynnal cyfrinachedd ynghylch y digwyddiadau a phawb dan sylw
  4. rhannu manylion y digwyddiad â phobl gyfrifol
  5. briffio rheolwyr a phobl gyfrifol am y digwyddiad a phwy oedd yn gysylltiedig
  6. egluro'r holl fanylion ac ateb unrhyw gwestiynau am y digwyddiad
  7. trafod goblygiadau posibl a chadarnhau camau gweithredu i'w dilyn ar ôl y digwyddiad
  8. cadarnhau’r gweithdrefnau adrodd ar gyfer unrhyw fath o ddigwyddiadau
  9. ymdrin ag ymholiadau am y digwyddiadau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
  10. cyfathrebu â gweithwyr perthnasol gan barchu cyfrinachedd pawb sy'n gysylltiedig â'r digwyddiadau
  11. adolygu eich gweithdrefnau sefydliadol mewn perthynas â digwyddiadau treisgar yn rheolaidd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gweithdrefnau diogelu cyfrinachedd yn unol â rheoliadau diogelu data
  2. eich dyletswyddau cyfreithiol ar gyfer sicrhau lles, diogelwch ac iechyd eich hun a gweithwyr eraill yn y gweithle
  3. y sianeli cyfathrebu yn eich sefydliad
  4. y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer rhoi gwybod am anafiadau, clefydau, damweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd a digwyddiadau peryglus
  5. polisïau a gweithdrefnau'r sefydliad mewn perthynas ag atal trais yn y gwaith
  6. y gweithdrefnau sy'n ymwneud â chyfathrebu mewnol ac allanol yn dilyn digwyddiad o drais
  7. sut i ddelio â phobl allanol o ran cyfrinachedd a phreifatrwydd
  8. sut i ymdrin ag ymholiadau gan ffynonellau allanol a phwy yw'r llefarydd ar gyfer sefyllfaoedd o'r fath
  9. y negeseuon y dylid eu cyfleu a'u pwysleisio wrth gyfathrebu’n allanol
  10. pwysigrwydd rhannu’r manylion perthnasol mewn modd amserol
  11. pwysigrwydd tawelu meddwl pob gweithiwr am ei iechyd a’i ddiogelwch
  12. sut i ymateb i gwestiynau ac ymholiadau mewn perthynas ag achosion o drais
  13. at bwy y dylai gweithwyr gyflwyno eu pryderon a'u cwynion
  14. pwysigrwydd dilyn y strategaeth o fewn gofynion sefydliadol a chyfreithiol
  15. y ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfer iechyd a diogelwch yn y gwaith
  16. rheolau ac arferion defnyddio cyfryngau cymdeithasol a dulliau cyfathrebu ar-lein
  17. y cyfrifoldebau cyfreithiol a pholisi a gweithdrefnau eich sefydliad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Ymddygiad ymosodol

Unrhyw ymddygiad neu weithredoedd sy’n ceisio niweidio person neu eiddo ffisegol. 

Cyfathrebu ymosodol

Dull cyfathrebu lle mae unigolion yn mynegi eu teimladau a’u barn ac yn eirioli dros eu hanghenion mewn ffordd sy’n amharu ar hawliau pobl eraill.

Gwrthdaro

Sefyllfa lle ceir gwrthwynebiad ac anghytundeb rhwng dau berson neu ragor neu grwpiau o bobl, a nodweddir weithiau gan gam-drin geiriol, ymddygiad bygythiol neu drais corfforol.

Rheoli Gwrthdaro

Yr arfer o nodi gwrthdaro a’i drin mewn modd synhwyrol, teg ac effeithlon. I reoli gwrthdaro mae angen sgiliau megis cyfathrebu effeithiol, datrys problemau, a thrafod gyda phwyslais ar fuddiannau cyffredin a diogelu pawb dan sylw.

Asesiad Risg Dynamig

Mae hwn yn asesiad parhaus o'r risgiau a wynebir mewn sefyllfa wrth iddi ddatblygu i wneud yn siŵr bod yr ymateb mwyaf diogel a mwyaf effeithiol yn cael ei ddefnyddio.

Cyfarpar

Gallai’r rhain gynnwys cyfarpar fel peiriannau galw, ffonau symudol, walkie-talkies, botymau panig, systemau annerch cyhoeddus, ac ati.

Gwerthuso

Y broses o benderfynu a yw eitem neu weithgaredd yn bodloni meini prawf penodol.

Gall gynnwys cymharu digonolrwydd polisïau a gweithdrefnau ag arferion cyfredol neu safonau proffesiynol i reoli trais sy’n gysylltiedig â gwaith.

Asesiad Risg Generig

Dyma:

  • archwiliad o'r gwaith a gweithgareddau'r gweithle i nodi beth allai achosi niwed i bobl (perygl); ac
  • asesiad o’r posibilrwydd, uchel neu isel, y gallai rhywun gael ei niweidio gan y peryglon a nodwyd, yn ogystal ag awgrym o ba mor ddifrifol y gallai’r niwed fod (y risg).

Ar sail yr asesiad hwn gwneir penderfyniad ynghylch pa gamau atal neu reoli y dylid eu cymryd i atal y posibilrwydd o niwed.

Ymyrraeth Gorfforol

Dylai hyn gynnwys technegau diogelwch personol i leihau effaith ymddygiadau peryglus, safiadau amddiffynnol, ymddieithrio a thechnegau ymwahanu” (wrth ymateb i ymddygiadau bygythiol yn gorfforol neu amddiffyn eich hun neu rywun arall) neu “dechnegau atal” (wrth gyfyngu’n gorfforol ar symudiad person).

Amgylchedd Gwaith a Diwylliant Positif

Amgylchedd gwaith a diwylliant nad yw'n goddef unrhyw ymddygiad treisgar.

Gweithdrefnau

Cyfres o gamau mewn trefn bendant a rheolaidd sy'n rhoi polisi ar waith.

Rhagofalon

Gallai’r rhain gynnwys: rhwystrau amddiffynnol, dillad amddiffynnol, ymatebion diogeledd, gweithio mewn parau neu dimau yn lle gweithio ar eich pen eich hun, ac ati.

Person Cyfrifol

Person a enwir yng ngweithdrefnau’r sefydliad fel un sydd â chyfrifoldeb dros achosion o drais yn y gwaith.

Risg

Risg yw’r tebygolrwydd o niwed posibl o ganlyniad i wireddu’r perygl o dan sylw.

Mae maint y risg yn dibynnu ar:

  • y tebygolrwydd y bydd y niwed hwnnw'n digwydd;
  • difrifoldeb posibl y niwed hwnnw, h.y. unrhyw anaf neu effaith andwyol ar iechyd o ganlyniad i’r niwed; a’r
  • boblogaeth a allai gael ei heffeithio gan y perygl, h.y. nifer y bobl a allai fod yn agored i’r perygl.

Ffynhonnell: Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) “Rheoli iechyd a diogelwch yn y gwaith Cod Ymarfer ac Arweiniad Cymeradwy”. 

Arferion Gwaith Diogel

Dulliau diogel sefydledig o gynnal gweithgareddau, gweithdrefnau neu dechnegau a ddefnyddir wrth gyflawni eich swydd neu weithgareddau gwaith i gyflwyno gwasanaeth sydd â'r lefelau ansawdd ac effeithlonrwydd sy'n ofynnol gan y sefydliad.

Defnyddwyr Gwasanaethau

Er enghraifft: myfyrwyr ysgol, cleifion, cleientiaid, teithwyr, cwsmeriaid, carcharorion, y cyhoedd, rhieni, gwirfoddolwyr a gofalwyr.

Sbardunau Trais

Ffactorau a allai achosi trais. Gellir eu categoreiddio yn ôl pedwar math gwahanol:

  • ffactorau personol dros dro er enghraifft, defnyddiwr y gwasanaeth yn anghyfforddus oherwydd diffyg bwyd, cynhesrwydd, golau, neu ymddwyn yn heriol o dan ddylanwad diod neu gyffuriau, neu
  • ffactorau personol parhaus megis iechyd meddwl sy'n gwaethygu, anhawster neu anabledd, sy'n atal cyfathrebu, symudiad neu ymddygiad arferol, neu
  • ffactorau amgylcheddol dros dro fel ystafell boeth, swnllyd, orlawn, dynameg gwaith gwael o ran cynllun dodrefn, ac ati, neu
  • ffactorau amgylcheddol parhaus megis disgwyliadau gormodol gan ddefnyddiwr y gwasanaeth, neu bod ansawdd y gwasanaeth a gynigir yn methu’n gyson â bodloni safonau gofynnol y defnyddiwr.

Trais sy'n Gysylltiedig â Gwaith

Dyma ddiffiniad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch o drais sy’n gysylltiedig â gwaith: “Unrhyw ddigwyddiad lle mae person yn cael ei gam-drin, ei fygwth neu yr ymosodir arno mewn amgylchiadau sy’n ymwneud â’i waith’.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2030

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills CFA

URN gwreiddiol

CFAPMVW10

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr personél, hyfforddiant a chysylltiadau diwydiannol, o swyddogion personél a chysylltiadau diwydiannol, Rheolwyr ac Uwch-swyddogion, Cynrychiolwyr Undebau Llafur a Gweithwyr Proffesiynol

Cod SOC

1135

Geiriau Allweddol

Atal; Rheoli; Gwaith; Cyfathrebu; Digwyddiad; Trais