Amddiffyn eich hun a gweithwyr eraill rhag risgiau trais yn y gweithle

URN: INSPMVW02
Sectorau Busnes (Cyfresi): Atal a Rheoli Trais yn y Gweithle
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag amddiffyn eich hun a gweithwyr eraill rhag risgiau trais yn y gweithle. Mae’n cynnwys cynnal asesiad risg dynamig a thawelu sefyllfa a allai fod yn beryglus drwy ddefnyddio cyn lleied o gamau neu eiriau â phosibl a allai ysgogi ymddygiad treisgar a thrwy ddangos parch a dealltwriaeth at bobl, eu heiddo a’u hawliau. Mae’n ymwneud ag ymateb i sefyllfa, ceisio ei thawelu a gadael sefyllfa fygythiol pan fo hynny’n angenrheidiol neu’n briodol. Mae hefyd yn ymwneud ag adolygu'r digwyddiad at ddibenion cofnodi a monitro a gwneud newidiadau angenrheidiol yn sgîl yr adolygiad. 

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd mewn sefyllfa yn y gwaith lle mae angen iddynt amddiffyn eu hunain a gweithwyr eraill rhag risgiau trais.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynnal asesiad risg dynamig o'ch gweithle
  2. asesu lefelau’r bygythiad drwy gamu’n ôl o’r sefyllfa
  3. dadansoddi'r amgylchedd lle mae'r digwyddiad yn digwydd neu'n debygol o ddigwydd
  4. nodi unrhyw wrthrychau posibl y gellid eu defnyddio fel bygythiad o drais neu arf
  5. nodi pawb, gan gynnwys chi eich hun, sy’n cael eu heffeithio gan drais
  6. nodi ystod yr opsiynau a’r camau mwyaf diogel i’w cymryd yn ystod sefyllfaoedd treisgar neu beryglus
  7. parhau i fonitro'r sefyllfa a bod yn barod i ailasesu'r bygythiadau
  8. ystyried opsiynau amgen os bydd lefelau’r bygythiadau’n newid
  9. cynorthwyo i dawelu sefyllfa a allai fod yn dreisgar
  10. cynnal pellter diogel a dangos agwedd broffesiynol tuag at ymddygiad annerbyniol
  11. cyfathrebu â’r rhai sy’n ymddwyn mewn ffordd annerbyniol gan eu parchu nhw, eu heiddo a’u hawliau
  12. parhau i adolygu’r sefyllfa a lleihau’r risgiau i ddiogelwch pawb sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiad
  13. cymryd camau i reoli'r sefyllfa ac osgoi ei gwaethygu
  14. gofyn am gymorth i leihau'r risg o anaf i chi eich hun a gweithwyr eraill
  15. rhoi’r gorau i gysylltu â’r rhai sy’n ymddwyn mewn modd annerbyniol neu dreisgar
  16. gadael y sefyllfa os na ellir rheoli'r bygythiad i'ch diogelwch chi a gweithwyr eraill
  17. egluro'r camau i'w cymryd drosoch chi eich hun a gweithwyr eraill sy'n gysylltiedig
  18. esbonio'r goblygiadau tebygol os bydd y sefyllfa bresennol yn parhau neu'n gwaethygu
  19. adolygu dilyniant y digwyddiadau a arweiniodd at y digwyddiad
  20. trafod gyda gweithwyr perthnasol a wnaeth gweithdrefnau sefydliadol helpu neu rwystro'r digwyddiad
  21. cwblhau cofnodion o’r digwyddiad yn unol â gofynion sefydliadol
  22. crynhoi eich gweithredoedd chi a gweithwyr eraill ar adeg y digwyddiad
  23. disgrifio amgylchiadau a difrifoldeb y digwyddiad a'r camau a gymerwyd i amddiffyn eich hun a gweithwyr eraill
  24. asesu eich risgiau chi a’r sefydliad mewn perthynas â rolau a’ch gweithgareddau chi a gweithwyr eraill
  25. asesu pa mor ddigonol ydych chi i ddelio â digwyddiadau tebyg
  26. gwneud argymhellion i'r gweithwyr perthnasol i leihau'r risg o ragor o ddigwyddiadau tebyg
  27. nodi meysydd lle byddech chi ac eraill yn elwa o hyfforddiant
  28. cyfrannu at arferion da drwy rannu gwybodaeth berthnasol nad yw’n gyfrinachol â gweithwyr eraill i leihau digwyddiadau o drais
  29. defnyddio cymorth a chyngor i helpu i atal unrhyw broblemau iechyd sy’n gysylltiedig â digwyddiadau
  30. dilyn cyfrifoldebau cyfreithiol, rheolau cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich dyletswyddau cyfreithiol chi a gweithwyr eraill ar gyfer sicrhau lles, diogelwch ac iechyd yn y gweithle
  2. y gweithdrefnau diogelu cyfrinachedd yn unol â rheoliadau diogelu data
  3. eich dyletswyddau cyfreithiol ar gyfer sicrhau lles, diogelwch ac iechyd eich hun a gweithwyr eraill yn y gweithle
  4. y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer rhoi gwybod am anafiadau, clefydau, damweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd a digwyddiadau peryglus
  5. y broses o gynnal asesiad risg deinamig o sefyllfa a allai fod yn dreisgar
  6. yr amgylchedd lle gall y digwyddiadau ddigwydd
  7. y gwrthrychau a allai fod yn beryglus y gellid eu defnyddio ar gyfer bygythiadau o drais neu fel arf
  8. yr opsiynau diogelwch a gweithredoedd yn ystod sefyllfaoedd peryglus a threisgar
  9. sut i adnabod y lefelau bygythiad i chi eich hun a gweithwyr eraill
  10. rolau a chyfrifoldebau eich hun a gweithwyr eraill
  11. galluoedd a chyfyngiadau eich hun a gweithwyr eraill o ran amddiffyn eich hun mewn sefyllfaoedd a allai fod yn dreisgar
  12. pan fo'n briodol ac yn bosibl cadw pellter diogel ac osgoi cysylltiad corfforol
  13. pwysigrwydd dangos parch at bobl, eu heiddo a'u hawliau
  14. sut i osgoi ymddygiadau ac iaith wahaniaethol neu ormesol
  15. sut i ddehongli iaith ddi-eiriau a phwysigrwydd cydnabod gofod personol pobl eraill
  16. pwysigrwydd parhau’n effro i sbardunau ymddygiad treisgar
  17. pwysigrwydd cynllunio sut y dylech chi a gweithwyr eraill adael sefyllfa
  18. yr arwyddion p sut y gallai sefyllfa waethygu i ymddygiad treisgar a sut i adnabod y rhain
  19. y mathau o gamau i'w cymryd i dawelu sefyllfaoedd peryglus neu dreisgar
  20. yr amgylchiadau pan mae angen gadael lleoliad y digwyddiad a cheisio cymorth
  21. y technegau diogelwch ar gyfer gadael sefyllfa beryglus neu dreisgar
  22. y llwybrau ymadael agosaf pan fo risg o drais corfforol
  23. pwysigrwydd allgofnodi os oes risg o fygythiadau mewn amgylchedd rhithwir
  24. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio ag ymddygiadau treisgar a pheryglus
  25. y gweithdrefnau i'w dilyn pan nad oes modd i chi neu weithwyr eraill dawelu'r sefyllfa
  26. pwysigrwydd cael y cyfle i siarad â rhywun am y digwyddiad ar ôl iddo ddigwydd
  27. yr adroddiadau a'r cofnodion am ddigwyddiad a allai ddigwydd neu sydd wedi digwydd
  28. y dulliau cyfathrebu yn ystod sefyllfaoedd peryglus neu dreisgar
  29. y ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfer iechyd a diogelwch yn y gwaith
  30. rheolau ac arferion defnyddio cyfryngau cymdeithasol a dulliau cyfathrebu ar-lein
  31. y cyfrifoldebau cyfreithiol a pholisi a gweithdrefnau eich sefydliad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Ymddygiad ymosodol

Unrhyw ymddygiad neu weithredoedd sy’n ceisio niweidio person neu eiddo ffisegol. 

Cyfathrebu ymosodol

Dull cyfathrebu lle mae unigolion yn mynegi eu teimladau a’u barn ac yn eirioli dros eu hanghenion mewn ffordd sy’n amharu ar hawliau pobl eraill.

Gwrthdaro

Sefyllfa lle ceir gwrthwynebiad ac anghytundeb rhwng dau berson neu ragor neu grwpiau o bobl, a nodweddir weithiau gan gam-drin geiriol, ymddygiad bygythiol neu drais corfforol.

Rheoli Gwrthdaro

Yr arfer o nodi gwrthdaro a’i drin mewn modd synhwyrol, teg ac effeithlon. I reoli gwrthdaro mae angen sgiliau megis cyfathrebu effeithiol, datrys problemau, a thrafod gyda phwyslais ar fuddiannau cyffredin a diogelu pawb dan sylw.

Asesiad Risg Dynamig

Mae hwn yn asesiad parhaus o'r risgiau a wynebir mewn sefyllfa wrth iddi ddatblygu i wneud yn siŵr bod yr ymateb mwyaf diogel a mwyaf effeithiol yn cael ei ddefnyddio.

Cyfarpar

Gallai’r rhain gynnwys cyfarpar fel peiriannau galw, ffonau symudol, walkie-talkies, botymau panig, systemau annerch cyhoeddus, ac ati.

Gwerthuso

Y broses o benderfynu a yw eitem neu weithgaredd yn bodloni meini prawf penodol.

Gall gynnwys cymharu digonolrwydd polisïau a gweithdrefnau ag arferion cyfredol neu safonau proffesiynol i reoli trais sy’n gysylltiedig â gwaith.

Asesiad Risg Generig

Dyma:

  • archwiliad o'r gwaith a gweithgareddau'r gweithle i nodi beth allai achosi niwed i bobl (perygl); ac
  • asesiad o’r posibilrwydd, uchel neu isel, y gallai rhywun gael ei niweidio gan y peryglon a nodwyd, yn ogystal ag awgrym o ba mor ddifrifol y gallai’r niwed fod (y risg).

Ar sail yr asesiad hwn gwneir penderfyniad ynghylch pa gamau atal neu reoli y dylid eu cymryd i atal y posibilrwydd o niwed.

Ymyrraeth Gorfforol

Dylai hyn gynnwys technegau diogelwch personol i leihau effaith ymddygiadau peryglus, safiadau amddiffynnol, ymddieithrio a thechnegau ymwahanu” (wrth ymateb i ymddygiadau bygythiol yn gorfforol neu amddiffyn eich hun neu rywun arall) neu “dechnegau atal” (wrth gyfyngu’n gorfforol ar symudiad person).

Amgylchedd Gwaith a Diwylliant Positif

Amgylchedd gwaith a diwylliant nad yw'n goddef unrhyw ymddygiad treisgar.

Gweithdrefnau

Cyfres o gamau mewn trefn bendant a rheolaidd sy'n rhoi polisi ar waith.

Rhagofalon

Gallai’r rhain gynnwys: rhwystrau amddiffynnol, dillad amddiffynnol, ymatebion diogeledd, gweithio mewn parau neu dimau yn lle gweithio ar eich pen eich hun, ac ati.

Person Cyfrifol

Person a enwir yng ngweithdrefnau’r sefydliad fel un sydd â chyfrifoldeb dros achosion o drais yn y gwaith.

Risg

Risg yw’r tebygolrwydd o niwed posibl o ganlyniad i wireddu’r perygl o dan sylw.

Mae maint y risg yn dibynnu ar:

  • y tebygolrwydd y bydd y niwed hwnnw'n digwydd;
  • difrifoldeb posibl y niwed hwnnw, h.y. unrhyw anaf neu effaith andwyol ar iechyd o ganlyniad i’r niwed; a’r
  • boblogaeth a allai gael ei heffeithio gan y perygl, h.y. nifer y bobl a allai fod yn agored i’r perygl.

Ffynhonnell: Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) “Rheoli iechyd a diogelwch yn y gwaith – Cod Ymarfer ac Arweiniad Cymeradwy”. 

Arferion Gwaith Diogel

Dulliau diogel sefydledig o gynnal gweithgareddau, gweithdrefnau neu dechnegau a ddefnyddir wrth gyflawni eich swydd neu weithgareddau gwaith i gyflwyno gwasanaeth sydd â'r lefelau ansawdd ac effeithlonrwydd sy'n ofynnol gan y sefydliad.

Defnyddwyr Gwasanaethau

Er enghraifft: myfyrwyr ysgol, cleifion, cleientiaid, teithwyr, cwsmeriaid, carcharorion, y cyhoedd, rhieni, gwirfoddolwyr a gofalwyr.

Sbardunau Trais

Ffactorau a allai achosi trais. Gellir eu categoreiddio yn ôl pedwar math gwahanol:

  • ffactorau personol dros dro er enghraifft, defnyddiwr y gwasanaeth yn anghyfforddus oherwydd diffyg bwyd, cynhesrwydd, golau, neu ymddwyn yn heriol o dan ddylanwad diod neu gyffuriau, neu
  • ffactorau personol parhaus megis iechyd meddwl sy'n gwaethygu, anhawster neu anabledd, sy'n atal cyfathrebu, symudiad neu ymddygiad arferol, neu
  • ffactorau amgylcheddol dros dro fel ystafell boeth, swnllyd, orlawn, dynameg gwaith gwael o ran cynllun dodrefn, ac ati, neu
  • ffactorau amgylcheddol parhaus megis disgwyliadau gormodol gan ddefnyddiwr y gwasanaeth, neu bod ansawdd y gwasanaeth a gynigir yn methu’n gyson â bodloni safonau gofynnol y defnyddiwr.

Trais sy'n Gysylltiedig â Gwaith

Dyma ddiffiniad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch o drais sy’n gysylltiedig â gwaith: “Unrhyw ddigwyddiad lle mae person yn cael ei gam-drin, ei fygwth neu yr ymosodir arno mewn amgylchiadau sy’n ymwneud â’i waith’.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2030

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills CFA

URN gwreiddiol

CFAPMVW3

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr personél, hyfforddiant a chysylltiadau diwydiannol, o swyddogion personél a chysylltiadau diwydiannol, Rheolwyr ac Uwch-swyddogion, Cynrychiolwyr Undebau Llafur a Gweithwyr Proffesiynol

Cod SOC

1135

Geiriau Allweddol

Atal; Rheoli; Trais; Risg; Gwaith