Rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid am sut i gynyddu incwm i’r eithaf

URN: INSLRB10
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweinyddu Refeniw Lleol a Budd-daliadau
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo: 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gallu rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid am y mathau o geisiadau am fudd-daliadau sydd ar gael i gynyddu incwm i’r eithaf. Y rôl yw rhoi gwybodaeth sylfaenol, cynghori cwsmeriaid ar sut i wneud cais am gymorth, cynorthwyo i wneud ceisiadau os oes angen cymorth TG neu lythrennedd ar y cwsmer a chyfeirio cwsmeriaid at ganolfannau neu adrannau cyngor arbenigol.

Yn ôl pob tebyg byddwch yn gweithio mewn canolfan gwasanaeth i gwsmeriaid awdurdod lleol neu sefydliad cyhoeddus neu drydydd sector arall a byddwch yn bwynt cyswllt cyntaf i gwsmeriaid.

Mae'r mathau o fudd-daliadau lles o dan gwmpas y safon hon yn cynnwys budd-daliadau nawdd cymdeithasol, budd-daliadau tai, cynlluniau gostyngiadau treth y cyngor, credydau treth, cronfeydd dewisol a chynlluniau lleol ar gyfer incwm a chymorth mewn nwyddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. croesawu'r cwsmer yn unol â safonau gwasanaethau i gwsmeriaid eich sefydliad
  2. sefydlu rhesymau'r cwsmer dros gysylltu â'ch sefydliad
  3. casglu gwybodaeth gefndir perthnasol i'ch galluogi i gynorthwyo'r cwsmer
  4. pennu cymhwysedd posibl y cwsmer i gael budd-daliadau
  5. cynnal cyfrinachedd a phreifatrwydd cwsmeriaid
  6. disgrifio opsiynau perthnasol ar gyfer cynyddu incwm i’r eithaf a chyllidebu i'r cwsmer
  7. egluro'r broses ar gyfer gwneud cais gan gynnwys amserlenni
  8. helpu'r cwsmer i wneud cais os oes angen cymorth llythrennedd a/neu TG arno
  9. rhoi gwybod i'r cwsmer bod modd apelio a beth yw’r gweithdrefnau lleol ar gyfer gwneud hynny
  10. cyfeirio'r cwsmer at wybodaeth am fathau eraill o geisiadau lles, os oes angen
  11. cyfeirio'r cwsmer at y canolfannau neu'r adrannau cyngor arbenigol perthnasol, os oes angen
  12. cyfeirio'r cwsmer at gydweithwyr perthnasol yn unol â safonau gwasanaethau i gwsmeriaid eich sefydliad
  13. cofnodi gwybodaeth berthnasol am y cwsmer yn systemau cofnodion eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y codau ymarfer, y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol ar gyfer ceisiadau lles – budd-daliadau, grantiau a chymorth
  2. amrywiaeth gymdeithasol ac ethnig yn ogystal ag anghenion y cymunedau y mae eich sefydliad yn eu gwasanaethu
  3. egwyddorion allweddol y fframwaith deddfwriaethol presennol mewn perthynas â cheisiadau am fudd-daliadau, grantiau a chymorth
  4. y gwahaniaeth rhwng ceisiadau prawf modd, ceisiadau heb brawf modd a chredydau treth
  5. ble i gael gafael ar yr wybodaeth berthnasol ar gynyddu incwm i’r eithaf
  6. y gweithdrefnau apelio perthnasol ar gyfer herio penderfyniadau ynghylch ceisiadau lles
  7. y cymhwysedd posibl ar gyfer budd-daliadau, grantiau a chymorth a sut mae’r rhain yn berthnasol i wahanol grwpiau o gwsmeriaid
  8. yr asiantaethau sy'n ymwneud â gweinyddu ceisiadau lles ar lefelau cenedlaethol a lleol
  9. y prosesau, y gweithdrefnau a'r terfynau amser ar gyfer gwneud ceisiadau am fudd-daliadau
  10. y cynlluniau lles lle gellir dod o hyd i gymorth ac incwm ychwanegol yn lleol
  11. pryd y dylid cyfeirio cwsmer at gynghorydd arbenigol
  12. at bwy i gyfeirio materion sydd y tu allan i'ch cyfrifoldeb neu eich cylch gwaith
  13. sut i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau mewn deddfwriaeth berthnasol a sut mae hyn yn effeithio ar y cyngor yr ydych yn ei roi
  14. eich gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cofnodi gwybodaeth
  15. eich gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data berthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTWA1

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Tai, Gweinyddwr Tai Cynorthwyol, Gweinyddwr Tai, Cynorthwyydd Tai, Rheolwr Tai , Swyddog Budd-daliadau, Swyddog/Cynorthwyydd Trethiant a Budd-daliadau, Cynorthwyydd Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Trafodwr Gosod Tai, Swyddog/Cynorthwyydd Refeniw, Swyddog/Rheolwr Eiddo Cynorthwyol, Swyddog/Cynorthwyydd Cymorth Tai

Cod SOC

4112

Geiriau Allweddol

cwsmeriaid; cymorth; gwasanaethau; cytundebau; deddfwriaeth; dogfennaeth; cynhwysiant cymdeithasol; proses; datrys anghydfodau; cydymffurfiaeth