Gweinyddu trethi lleol, budd-daliadau, grantiau a chynlluniau cymorth eraill
URN: INSLRB09
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweinyddu Refeniw Lleol a Budd-daliadau
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo:
2018
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'r cymhwysedd craidd sydd ei angen ar bawb sy'n gweithio ym maes gweinyddu trethi lleol, budd-daliadau, grantiau a chynlluniau cymorth eraill, beth bynnag fo'u rôl neu swyddogaeth. Mae'n cynnwys deall deddfwriaeth a rheoliadau perthnasol, deall yr amgylchedd lleol perthnasol a gweithio o fewn gofynion sefydliadol i sicrhau dulliau gweithio effeithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- storio ffeiliau a dogfennaeth yn unol â'r gweithdrefnau a'r gofynion sefydliadol perthnasol
- lleoli ac adfer gwybodaeth sy'n ymwneud â threthiant lleol a/neu fudd-daliadau, grantiau a chynlluniau cymorth eraill, yn system cadw cofnodion eich sefydliad yn ôl yr angen i gyflawni eich rôl
- gweithio gyda staff, adrannau, swyddfeydd neu asiantaethau eraill i gael gwybodaeth sy'n ymwneud â threthiant lleol a/neu fudd-daliadau, grantiau a chynlluniau cymorth eraill, yn ôl yr angen
- rhoi gwybodaeth sy'n ymwneud â threthiant lleol a/neu fudd-daliadau, grantiau a chynlluniau cymorth eraill, i staff, adrannau, swyddfeydd neu asiantaethau eraill, yn ôl yr angen, yn unol â deddfwriaeth diogelu data
- cyhoeddi ffurflenni perthnasol i geisyddion yn ôl yr angen, yn unol â'r gweithdrefnau gweithredu lleol perthnasol
- cadarnhau bod yr holl ffurflenni cais a dogfennau perthnasol a dderbyniwyd yn cydymffurfio â gofynion eich sefydliad, a mynd ar drywydd unrhyw wybodaeth sydd ar goll lle bo angen
- mynd ar drywydd unrhyw ffurflenni sydd heb gyrraedd erbyn y dyddiad cau ac anfon nodyn atgoffa
- prosesu'r holl wybodaeth yn unol â gofynion deddfwriaeth diogelu data berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y codau ymarfer, y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol
- amrywiaeth gymdeithasol ac ethnig yn ogystal ag anghenion y cymunedau y mae eich sefydliad yn eu gwasanaethu
- cyfraith achosion, dyfarniadau, rheoliadau a chanllawiau perthnasol sy'n ymwneud â threthiant lleol a/neu fudd-daliadau, grantiau a chynlluniau cymorth
- y ddeddfwriaeth berthnasol o ran diogelu data a rhyddid gwybodaeth
- y gwahaniaethau, at ddibenion trethiant, rhwng eiddo domestig ac annomestig a'r gwahanol fathau o drethiant ar eiddo
- y gwahanol fathau o grantiau, ceisiadau am fudd-daliadau a chymorth, a cheisyddion
- yr adrannau neu'r swyddfeydd cysylltiedig perthnasol, eu rolau, a sut i weithio gyda nhw
- gofynion a gweithdrefnau perthnasol y sefydliad ac asiantaethau allanol ar gyfer cael gwybodaeth a’i chyfnewid
- y dulliau cofnodi ac adfer data, a phwysigrwydd cynnal cofnodion
- gweithdrefnau'r awdurdod lleol ar gyfer sicrhau diogelwch a chyfrinachedd gwybodaeth
- y gofynion archwilio mewnol ac allanol perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTPS3
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Tai, Gweinyddwr Tai Cynorthwyol, Gweinyddwr Tai, Cynorthwyydd Tai, Rheolwr Tai, Swyddog Budd-daliadau, Swyddog/Cynorthwyydd Trethiant a Budd-daliadau, Cynorthwyydd Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Trafodwr Gosod Tai, Swyddog/Cynorthwyydd Refeniw, Swyddog/Rheolwr Eiddo Cynorthwyol, Swyddog/Cynorthwyydd Cymorth Tai
Cod SOC
4112
Geiriau Allweddol
cwsmeriaid; cymorth; gwasanaethau; cytundebau; deddfwriaeth; dogfennaeth; cynhwysiant cymdeithasol; proses; datrys anghydfodau; cydymffurfiaeth