Adfer taliadau trethi hwyr
URN: INSLRB08
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweinyddu Refeniw Lleol a Budd-daliadau
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo:
2018
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â delio â thaliadau trethi a fethwyd neu hwyr sy'n ddyledus i'r awdurdod lleol. Mae'n cynnwys monitro a mynd ar drywydd taliadau hwyr neu a fethwyd, ystyried ceisiadau am drefniadau talu arbennig a chytuno arnynt, ac adennill arian sy'n ddyledus i'r awdurdod lleol.
Yn y safon hon mae treth yn cyfeirio at dreth y cyngor, trethi domestig yng Ngogledd Iwerddon a threthi annomestig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- hyrwyddo’r gostyngiadau, y cymorth neu’r eithriadau sydd ar gael i drethdalwyr
- prosesu pob cais am drefniadau talu arbennig yn unol â'r gofynion statudol a lleol perthnasol, rhoi gwybod i'r trethdalwr am y canlyniad, a chofnodi'r trefniant yng nghyfrif yr awdurdod lleol
- cyhoeddi ceisiadau am wybodaeth ariannol neu wybodaeth arall i fonitro taliadau hwyr neu a fethwyd, yn unol ag amserlenni’r awdurdod lleol y cytunwyd arnynt
- cael adroddiad digidol am y rhai sydd heb dalu i'w gyflwyno i'ch rheolwr llinell i awdurdodi camau adfer
- cymryd y camau adfer perthnasol yr ydych wedi cael eich awdurdodi i’w cymryd, yn unol â gweithdrefnau cenedlaethol neu leol perthnasol
- llunio a chyhoeddi dogfennaeth o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt ac yn unol â'r gofynion lleol perthnasol, os bydd y weithdrefn adfer yn dod o fewn eich maes cyfrifoldeb eich hun
- cyfeirio materion o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt gan yr awdurdod lleol at y person neu'r sefydliad perthnasol, os bydd y weithdrefn adfer y tu allan i'ch maes cyfrifoldeb eich hun
- cael gwybodaeth ariannol ychwanegol lle bo angen gan asiantaethau allanol perthnasol, i gynorthwyo'r camau adfer
- rhoi'r gweithdrefnau dileu perthnasol ar waith o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt gan yr awdurdod lleol ar ôl cael awdurdod i wneud hynny
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y codau ymarfer, y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol
- amrywiaeth gymdeithasol ac ethnig yn ogystal ag anghenion y cymunedau y mae eich sefydliad yn eu gwasanaethu
- y gofynion a'r gweithdrefnau statudol a lleol perthnasol ar gyfer anfon hysbysiadau dilynol neu hysbysiadau atgoffa
- y gweithdrefnau, y rheoliadau a'r gofynion tystiolaeth perthnasol sy'n ymwneud â’r rhai sydd heb dalu, a chamau adfer yn yr ardal ddaearyddol rydych chi'n gweithio ynddi
- yr amgylchiadau sy’n gallu arwain at dalu trethi yn hwyr neu fethu â thalu
- y gwahanol fathau o ostyngiadau, cymorth ac eithriadau
- y mathau o hysbysiadau dilynol a hysbysiadau atgoffa a'r amserlenni sy'n gysylltiedig â nhw
- yr opsiynau talu perthnasol a'r trefniadau talu arbennig
- y dystiolaeth sydd ei hangen i ategu ceisiadau am drefniadau talu arbennig
- y polisïau a'r amserlenni gorfodi lleol perthnasol, a'u heffaith ar drefniadau talu
- y gwahanol ddulliau adfer sydd gan yr awdurdod lleol a'u rhinweddau ariannol a chyfrannol cymharol
- yr amgylchiadau lle gallai fod yn berthnasol cymryd camau adfer
- at bwy i gyfeirio materion sydd y tu allan i'ch cyfrifoldeb neu eich cylch gwaith
- y gweithdrefnau ar gyfer cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTLT4
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Tai, Gweinyddwr Tai Cynorthwyol, Gweinyddwr Tai, Cynorthwyydd Tai, Rheolwr Tai , Swyddog Budd-daliadau, Swyddog/Cynorthwyydd Trethiant a Budd-daliadau, Cynorthwyydd Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Trafodwr Gosod Tai, Swyddog/Cynorthwyydd Refeniw, Swyddog/Rheolwr Eiddo Cynorthwyol, Swyddog/Cynorthwyydd Cymorth Tai
Cod SOC
4112
Geiriau Allweddol
cwsmeriaid; cymorth; gwasanaethau; cytundebau; deddfwriaeth; dogfennaeth; cynhwysiant cymdeithasol; proses; datrys anghydfodau; cydymffurfiaeth