Rhoi gweithdrefnau bilio a thalu ar waith ar gyfer trethi
URN: INSLRB07
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweinyddu Refeniw Lleol a Budd-daliadau
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo:
2018
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi gweithdrefnau bilio a thalu ar waith ar gyfer trethi sy'n ddyledus i'r awdurdod lleol. Mae'n cynnwys nodi ble i anfon y bil, anfon biliau (hysbysiadau galw) a phrosesu dulliau talu.
Yn y safon hon mae'r term trethi yn cyfeirio at dreth y cyngor, trethi domestig yng Ngogledd Iwerddon a threthi annomestig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau cyfeiriad bilio'r parti neu'r partïon atebol
- rhoi gweithdrefnau olrhain ar waith lle bo angen a chynorthwyo’r broses olrhain yn ôl yr angen
- cyhoeddi hysbysiad galw i dalu trethi, gan wneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac yn cynnwys y ddogfennaeth berthnasol yn ôl yr angen
- cyhoeddi biliau diwygiedig a hysbysiadau galw lle bo angen
- sefydlu dulliau talu a pha mor aml y mae angen talu, yn unol â gweithdrefnau statudol a lleol perthnasol
- prosesu ceisiadau neu hysbysiadau am newidiadau i ddulliau talu gan drethdalwyr
- rhoi gwybod i bartïon atebol am unrhyw hawliau i apelio a allai fod ganddynt a'r gweithdrefnau lleol ar gyfer gwneud apêl
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y codau ymarfer, y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol
- amrywiaeth gymdeithasol ac ethnig yn ogystal ag anghenion y cymunedau y mae eich sefydliad yn eu gwasanaethu
- pwrpas a gofynion statudol biliau a hysbysiadau galw i dalu trethi
- yr amserlenni ar gyfer cyhoeddi biliau a hysbysiadau galw i dalu trethi
- hawliau partïon atebol i apelio yn erbyn bil a hysbysiad galw
- dulliau cadarnhau cyfeiriad bilio parti atebol
- dulliau olrhain partïon atebol a'r swyddfeydd neu'r cyrff perthnasol sy'n gysylltiedig
- yr elfennau perthnasol ar gyfer pennu swm a pha mor aml y bydd angen talu rhandaliadau
- yr amgylchiadau pan fo dulliau talu yn gallu newid
- y gwahanol opsiynau casglu a thalu sydd ar gael, eu heffeithlonrwydd a'u rhinweddau
- y gweithdrefnau casglu taliadau
- at bwy i gyfeirio materion sydd y tu allan i'ch cyfrifoldeb neu eich cylch gwaith
- y gweithdrefnau ar gyfer cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTLT3
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Tai, Gweinyddwr Tai Cynorthwyol, Gweinyddwr Tai, Cynorthwyydd Tai, Rheolwr Tai , Swyddog Budd-daliadau, Swyddog/Cynorthwyydd Trethiant a Budd-daliadau, Cynorthwyydd Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Trafodwr Gosod Tai, Swyddog/Cynorthwyydd Refeniw, Swyddog/Rheolwr Eiddo Cynorthwyol, Swyddog/Cynorthwyydd Cymorth Tai
Cod SOC
4112
Geiriau Allweddol
cwsmeriaid; cymorth; gwasanaethau; cytundebau; deddfwriaeth; dogfennaeth; cynhwysiant cymdeithasol; proses; datrys anghydfodau; cydymffurfiaeth