Sefydlu rhwymedigaethau a symiau sy'n ddyledus
URN: INSLRB06
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweinyddu Refeniw Lleol a Budd-daliadau
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo:
2018
Trosolwg
Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon mae'r swyddogaeth hon yn ymwneud â threthiant eiddo yn unig. Yn yr Alban, mae hefyd yn cynnwys sefydlu atebolrwydd am daliadau dŵr a charthffosiaeth. Mae'n cynnwys nodi'r parti neu'r partïon sy'n atebol am drethi ar eiddo, creu a chynnal cyfrifon ar gyfer trethdalwyr unigol, sefydlu faint sy’n ddyledus gan bob trethdalwr; defnyddio disgresiwn; ac asesu ac adolygu hawliau i ostyngiadau yn rheolaidd.
Yn y safon hon mae'r term trethiant eiddo yn cyfeirio at dreth y cyngor a threthi annomestig yng Nghymru, Lloegr a'r Alban a threthi domestig ac annomestig yng Ngogledd Iwerddon.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu hunaniaeth y parti neu'r partïon atebol a manylion eu cyfeiriad bilio
- creu cyfrif yn enw'r parti neu'r partïon atebol
- cyfrifo’r swm sy'n ddyledus gan bob parti neu bartïon atebol
- sefydlu a dyfarnu gostyngiadau, cymorth neu eithriadau
- rhoi gweithdrefnau perthnasol yr awdurdod lleol ar waith ar gyfer disgresiynau treth y cyngor neu drethi domestig
- hyrwyddo’r gostyngiadau, cymorth ac eithriadau sydd ar gael, a chyfeirio cwsmeriaid at wybodaeth berthnasol am fudd-daliadau pan fo angen
- adolygu hawliau i ostyngiadau, cymorth neu eithriadau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- atal yr hawl i ostyngiadau, cymorth neu eithriadau lle bo angen a rhoi gwybod i’r trethdalwr am y rhesymau
- cadarnhau ac ad-dalu gordaliadau, gan wneud yn siŵr bod llog yn cael ei gyfrifo a'i dalu lle bo'n berthnasol
- cau hen gyfrifon pan fo angen a phrosesu unrhyw falansau sy'n ddyledus neu ad-daliadau sy'n ddyledus
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y codau ymarfer, y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol
- amrywiaeth gymdeithasol ac ethnig yn ogystal ag anghenion y cymunedau y mae eich sefydliad yn eu gwasanaethu
- y cysyniad o atebolrwydd unigol ac atebolrwydd ar y cyd
- sut i sefydlu hunaniaeth y parti neu'r partïon sy'n atebol am drethiant lleol
- dulliau adnabod a chadarnhau hunaniaeth a chyfeiriad bilio parti neu bartïon atebol
- y gwahaniaethau, at ddibenion trethiant, rhwng eiddo wedi'i feddiannu, eiddo wedi'i feddiannu'n rhannol ac eiddo heb ei feddiannu
- egwyddorion yr awdurdodau lleol sy'n sail i gyfrifo rhwymedigaethau trethiant a gostyngiadau
- y gwahanol fathau o ostyngiadau, cymorth ac eithriadau sy'n ymwneud â threthiant lleol, a'r rheolau a'r rheoliadau sy'n llywodraethu’r hawl iddynt
- yr wybodaeth sydd ei hangen ar drethdalwr sy'n gwneud cais am ostyngiadau, cymorth neu eithriadau
- yr egwyddorion sy'n sail i gyfrifo gordaliadau, llog ar ordaliadau, ac ad-daliadau
- y gofynion a'r prosesau ar gyfer trefnu archwiliadau eiddo lle mae gwasanaeth o'r fath yn bodoli
- gweithdrefnau'r awdurdod lleol ar gyfer cyfrifo symiau sy'n ddyledus
- y gweithdrefnau a'r amserlenni sefydliadol ar gyfer adolygu rhwymedigaethau a'r hawl i ostyngiadau
- sut mae disgresiynau sydd ar gael i awdurdodau lleol yn effeithio ar atebolrwydd
- pwysigrwydd cydbwyso angen yr awdurdod i gynyddu refeniw i’r eithaf ochr yn ochr â nodi a chymhwyso gostyngiadau cymwys ar ran trethdalwyr
- at bwy i gyfeirio materion sydd y tu allan i'ch cyfrifoldeb neu eich cylch gwaith
- y gweithdrefnau ar gyfer cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data berthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTLT2
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Tai, Gweinyddwr Tai Cynorthwyol, Gweinyddwr Tai, Cynorthwyydd Tai, Rheolwr Tai, Swyddog Budd-daliadau, Swyddog/Cynorthwyydd Trethiant a Budd-daliadau, Cynorthwyydd Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Trafodwr Gosod Tai, Swyddog/Cynorthwyydd Refeniw, Swyddog/Rheolwr Eiddo Cynorthwyol, Swyddog/Cynorthwyydd Cymorth Tai
Cod SOC
4112
Geiriau Allweddol
cwsmeriaid; cymorth; gwasanaethau; cytundebau; deddfwriaeth; dogfennaeth; cynhwysiant cymdeithasol; proses; datrys anghydfodau; cydymffurfiaeth