Cynnal cofnodion eiddo at ddibenion trethiant lleol

URN: INSLRB05
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweinyddu Refeniw Lleol a Budd-daliadau
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo: 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal cofnodion yr awdurdod lleol yn y gronfa ddata eiddo ar gyfer trethiant lleol.  Mae hyn yn cynnwys treth y cyngor, trethi domestig yng Ngogledd Iwerddon a threthi annomestig. Mae'r safon yn ymwneud â chreu cofnodion o eiddo newydd; diwygio cofnodion pan fydd eiddo'n newid; cynnal perthnasoedd effeithiol ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (Cymru a Lloegr), yr Asesydd (Yr Alban) a'r Gwasanaethau Tir ac Eiddo (Gogledd Iwerddon).


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynnal cofnodion eiddo at ddibenion trethiant lleol
  2. sefydlu'r cyfeiriad, y ffurfweddiad a'r defnydd cywir o bob eiddo newydd
  3. sefydlu dyddiadau cwblhau ar gyfer eiddo newydd ac ychwanegu eiddo newydd ar y system o gofnodion trethiant lleol
  4. dadansoddi a gwerthuso'r holl wybodaeth a geir o ffynonellau mewnol ac allanol i nodi newidiadau i eiddo
  5. cysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (Lloegr a Chymru), yr Asesydd (Yr Alban) a'r Gwasanaethau Tir ac Eiddo (Gogledd Iwerddon) / cynnal gwybodaeth sy'n cydymffurfio â rheoliadau perthnasol a datrys anghysondebau
  6. trefnu archwiliad o eiddo newydd neu eiddo wedi'i addasu
  7. diwygio cofnodion eiddo yn seiliedig ar yr wybodaeth a geir, i fodloni gofynion yr awdurdod lleol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y codau ymarfer, y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol
  2. amrywiaeth gymdeithasol ac ethnig yn ogystal ag anghenion y cymunedau y mae eich sefydliad yn eu gwasanaethu
  3. sut i gynnal cofnodion eiddo at ddibenion trethiant lleol
  4. y gwahaniaethau, at ddibenion trethiant lleol, rhwng eiddo newydd, eiddo wedi'i addasu ac eiddo presennol
  5. rôl Asiantaeth y Swyddfa Brisio (Cymru a Lloegr) neu'r Asesydd (Yr Alban) neu'r Gwasanaethau Tir ac Eiddo (Gogledd Iwerddon)
  6. y rheoliadau perthnasol ar gyfer awdurdodau lleol sy'n ymwneud â gweinyddu a newid rhestrau gwerthuso a threthiant lleol
  7. ffurf, swyddogaeth a diben hysbysiadau cwblhau ar gyfer eich sefydliad
  8. y rheoliadau perthnasol sy'n ymwneud â thribiwnlysoedd gwerthuso ac apeliadau
  9. sut i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am effaith newidiadau i ddeddfwriaeth a'r trefniadau trosiannol gofynnol
  10. yr egwyddorion o ran sut mae eiddo yn cael ei werthuso
  11. y berthynas rhwng yr awdurdod lleol ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio (Cymru a Lloegr) neu'r Aseswr (Yr Alban) neu'r Gwasanaethau Tir ac Eiddo (Gogledd Iwerddon)
  12. proses yr awdurdod lleol ar gyfer trefnu archwiliadau eiddo lle bo angen
  13. gweithdrefn yr awdurdod lleol ar gyfer cynnal cofnodion eiddo
  14. gweithdrefn yr awdurdod lleol ar gyfer cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTLT1

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Tai, Gweinyddwr Tai Cynorthwyol, Gweinyddwr Tai, Cynorthwyydd Tai, Rheolwr Tai , Swyddog Budd-daliadau, Swyddog/Cynorthwyydd Trethiant a Budd-daliadau, Cynorthwyydd Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Trafodwr Gosod Tai, Swyddog/Cynorthwyydd Refeniw, Swyddog/Rheolwr Eiddo Cynorthwyol, Swyddog/Cynorthwyydd Cymorth Tai

Cod SOC

4112

Geiriau Allweddol

cwsmeriaid; cymorth; gwasanaethau; cytundebau; deddfwriaeth; dogfennaeth; cynhwysiant cymdeithasol; proses; datrys anghydfodau; cydymffurfiaeth