Cyfrifo a thalu budd-daliadau
URN: INSLRB03
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweinyddu Refeniw Lleol a Budd-daliadau
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo:
2018
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfrifo budd-daliadau sydd ar gael i’w hawlio a’u talu yn unol â gofynion statudol perthnasol a gweithdrefnau lleol. Mae'n ymwneud â phrosesu ceisiadau dilys yn ôl amserlenni y cytunwyd arnynt.
Yn y safon hon mae'r term ceisiadau yn cynnwys hawliadau am fudd-dal tai a gostyngiad yn nhreth y cyngor.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfrifo’r budd-daliadau sydd ar gael i’w hawlio yn unol â gofynion statudol perthnasol, deddfwriaeth berthnasol, a gweithdrefnau lleol
- darparu hysbysiadau o benderfyniadau i bob parti perthnasol yn unol â'r gofynion statudol cymwys
- rhoi gwybod i geisyddion am unrhyw hawliau apelio a allai fod ganddynt a gweithdrefnau'r awdurdod lleol ar gyfer gwneud apêl
- talu budd-daliadau yn unol â gofynion statudol perthnasol a gweithdrefnau lleol
- cynnal systemau a chofnodion i sicrhau cymorthdaliadau sy’n cael eu hawlio gan yr awdurdod lleol ac atal cymorthdaliadau rhag cael eu hadennill gan lywodraeth y DU
- rhoi argymhellion i'ch rheolwr llinell ar geisiadau i ôl-ddyddio hawliadau yn unol â chanllawiau'r awdurdod lleol
- prosesu tandaliadau lle bo angen a rhoi gwybod i'r ceisydd am unrhyw daliadau ychwanegol sy'n ddyledus iddynt o ganlyniad i hynny
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y codau ymarfer, y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol
- amrywiaeth gymdeithasol ac ethnig yn ogystal ag anghenion y cymunedau y mae eich sefydliad yn eu gwasanaethu
- y gofynion statudol perthnasol sy'n ymwneud â hawlio a thalu budd-daliadau a gostyngiadau i dreth y cyngor
- sut mae'r gwahanol fudd-daliadau'n cael eu cyfrifo a'u talu
- mathau a ffurfiau hysbysiadau penderfyniadau a’r hyn sy’n cael ei gynnwys ynddynt
- hawliau partïon perthnasol i apelio yn erbyn penderfyniad a gweithdrefnau'r awdurdod lleol ar gyfer gwneud apêl
- y risgiau i hawl yr awdurdod lleol i gymorthdaliadau llywodraeth y DU drwy daliadau a wneir i geisyddion
- y systemau a'r cofnodion perthnasol sydd eu hangen arnoch chi i sicrhau cymorthdaliadau llywodraeth y DU y mae’r awdurdod lleol wedi’u derbyn neu eu hawlio yn ôl
- y dulliau talu perthnasol ar gyfer budd-daliadau a'r rhesymau pam mae tandaliadau a gordaliadau yn gallu digwydd
- meini prawf yr awdurdod lleol sy'n ymwneud â therfynau amser a pha mor aml y caiff budd-daliadau eu talu
- rheolau a chynlluniau'r awdurdod lleol mewn perthynas â thalu budd-daliadau i geisyddion a thrydydd parti
- gweithdrefnau'r awdurdod lleol ar gyfer talu pan fydd yr hawlydd yn marw
- gweithdrefnau'r awdurdod lleol ar gyfer cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data perthnasol
- at bwy i gyfeirio materion sydd y tu allan i'ch cyfrifoldeb neu eich cylch gwaith
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTLB2
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Tai, Gweinyddwr Tai Cynorthwyol, Gweinyddwr Tai, Cynorthwyydd Tai, Rheolwr Tai, Swyddog Budd-daliadau, Swyddog/Cynorthwyydd Trethiant a Budd-daliadau, Cynorthwyydd Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Trafodwr Gosod Tai, Swyddog/Cynorthwyydd Refeniw, Swyddog/Rheolwr Eiddo Cynorthwyol, Swyddog/Cynorthwyydd Cymorth Tai
Cod SOC
4112
Geiriau Allweddol
cwsmeriaid; cymorth; gwasanaethau; cytundebau; deddfwriaeth; dogfennaeth; cynhwysiant cymdeithasol; proses; datrys anghydfodau; cydymffurfiaeth