Prosesu a gwirio ceisiadau am fudd-daliadau, grantiau a chymorth
URN: INSLRB02
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweinyddu Refeniw Lleol a Budd-daliadau
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo:
2018
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu ceisiadau am fudd-daliadau, grantiau a chymorth, a'u gwirio o ran cywirdeb a dilysrwydd. Mae'n cynnwys nodi a chasglu gwybodaeth a gwerthuso'r ceisiadau a'r wybodaeth a gafwyd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- prosesu ceisiadau am fudd-daliadau, grantiau a chymorth
- sefydlu cymhwysedd y ceisydd ar gyfer y budd-daliadau, y grantiau neu'r cymorth sy’n cael eu hawlio yn unol â'r gofynion statudol perthnasol, a chyfeirio at unrhyw geisiadau blaenorol sy’n bodoli
- cadarnhau bod tystiolaeth berthnasol sy’n ategu pob cais a chael gafael ar wybodaeth goll o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt
- cynnig cyngor neu gymorth pan fo angen cymorth ar geisydd i wneud cais, o fewn terfynau eich cyfrifoldebau
- ymgynghori â phob corff allanol perthnasol i sefydlu a dilysu'r cais yn absenoldeb y ddogfennaeth ategol ofynnol
- cadarnhau'r manylion yn y cais cyfredol i wneud yn siŵr eu bod yn cyd-fynd ag unrhyw gofnodion sefydledig
- cyfeirio materion sy'n weddill at y person perthnasol os nad yw ceisiadau'n cydymffurfio â'r gofynion perthnasol
- gofyn am ragor o dystiolaeth ategol gan geisyddion, os nad yw dogfennaeth ac ymgynghoriad yn ategu'r cais
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y codau ymarfer, y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau perthnasol
- y ddeddfwriaeth berthnasol sy'n ymwneud â chymhwysedd y ceisydd i gael budd-daliadau, grantiau a chymorth
- anghenion ac amrywiaeth gymdeithasol ac ethnig y cymunedau y mae eich sefydliad yn gwasanaethu ynddynt
- beth yw cynnwys y ffurflenni cais perthnasol a’r defnydd ohonynt
- y dulliau perthnasol o hawlio a gwneud cais am fudd-daliadau, grantiau a chymorth, a sut i brosesu a gwirio ceisiadau yn eu herbyn
- sut i adnabod ceisiadau dilys a nodi lle nad yw ceisiadau'n cydymffurfio â'r gofynion perthnasol
- yr ystod o wybodaeth, dogfennaeth a thystiolaeth sydd eu hangen i ategu'r cais a’r amserlenni a'r targedau lleol perthnasol ar gyfer prosesu'r ceisiadau
- y meini prawf perthnasol sy'n ymwneud â chymhwysedd ar gyfer taliadau dewisol
- pa gamau y dylid eu cymryd pan fydd cais yn methu â bodloni'r gofynion perthnasol ar gyfer gwneud cais am fudd-daliadau, grantiau neu gymorth
- y terfynau amser ar gyfer ailgyflwyno ceisiadau nad ydynt yn cydymffurfio â'r gofynion perthnasol a/neu ddarparu dogfennaeth a gwybodaeth ychwanegol
- at bwy i gyfeirio materion sydd y tu allan i'ch cyfrifoldeb neu ailgyfeirio'r gweithdrefnau ar gyfer cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol o ran diogelu data
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTLB1
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Tai, Gweinyddwr Tai Cynorthwyol, Gweinyddwr Tai, Cynorthwyydd Tai, Rheolwr Tai , Swyddog Budd-daliadau, Swyddog/Cynorthwyydd Trethiant a Budd-daliadau, Cynorthwyydd Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Trafodwr Gosod Tai, Swyddog/Cynorthwyydd Refeniw, Swyddog/Rheolwr Eiddo Cynorthwyol, Swyddog/Cynorthwyydd Cymorth Tai
Cod SOC
4112
Geiriau Allweddol
cwsmeriaid; cymorth; gwasanaethau; cytundebau; deddfwriaeth; dogfennaeth; cynhwysiant cymdeithasol; proses; datrys anghydfodau; cydymffurfiaeth