Paratoi a phrosesu apeliadau yn erbyn penderfyniadau awdurdodau lleol
URN: INSLRB01
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweinyddu Refeniw Lleol a Budd-daliadau
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo:
2018
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a phrosesu apeliadau yn erbyn penderfyniadau awdurdodau lleol, a rhoi gwybod i apelwyr am y canlyniadau. Gall y rhain fod yn drethdalwyr neu'n geisyddion budd-daliadau tai. Mae'r safon hon yn golygu gwirio a gafodd penderfyniadau eu gwneud yn gywir ac a oes sail dros apelio, casglu a dosbarthu dogfennaeth angenrheidiol, a chyfathrebu ag apelwyr.
Yn y safon hon mae trethdalwr yn cyfeirio at dreth y cyngor, cyfraddau domestig yng Ngogledd Iwerddon a thalwyr ardrethi annomestig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu dilysrwydd a sail yr apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol
- adolygu'r penderfyniad gwreiddiol i weld a yw’n cydymffurfio â deddfwriaeth neu reoliad perthnasol a'ch gweithdrefnau sefydliadol
- cadarnhau'r penderfyniad i apelio gyda'ch rheolwr llinell yn unol â'ch gweithdrefnau sefydliadol
- paratoi a phrosesu'r ddogfennaeth sy'n ofynnol ar gyfer yr apêl a'i hanfon at y partïon perthnasol
- rhoi gwybod i’r apelydd am ganlyniad yr apêl yn unol â'ch gweithdrefnau sefydliadol ac o fewn amserlenni gofynnol
- rhoi gwybod i'r apelydd am unrhyw hawl pellach i apelio os caiff yr apêl ei gwrthod yn llawn neu'n rhannol, a rhoi cyngor iddo ar y gweithdrefnau ar gyfer apeliadau pellach
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y codau ymarfer, y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau perthnasol
- amrywiaeth gymdeithasol ac ethnig yn ogystal ag anghenion y cymunedau y mae eich sefydliad yn eu gwasanaethu
- hawl yr unigolyn i apelio yn ôl y ddeddfwriaeth berthnasol
- y paramedrau o ran y penderfyniadau gan awdurdodau lleol y gellir apelio yn eu herbyn
- prosesau a gweithdrefnau penodol eich sefydliad a’r ddogfennaeth sy’n ofynnol mewn perthynas ag apeliadau yn y maes yr ydych chi’n arbenigo neu’n gweithredu ynddo
- sut i wirio bod penderfyniadau yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth neu'r rheoliad perthnasol a'ch polisïau sefydliadol
- eich gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer paratoi a phrosesu apeliadau
- y meini prawf sy'n ymwneud â phwerau'r awdurdod lleol a'r meini prawf sy'n llywodraethu'r broses apeliadau
- yr amodau sy'n llywodraethu'r pŵer i newid penderfyniadau a’r dyddiad y daw'r penderfyniad newydd i rym
- yr hyn a gaiff ei gynnwys mewn hysbysiad o benderfyniad yn dilyn apêl
- sut i roi gwybod am brosesau apelio a phenderfyniadau i apelwyr
- y gweithdrefnau ar gyfer apeliadau pellach yn dilyn penderfyniad
- y gwahanol fathau o apeliadau a'u prosesau
- at bwy i gyfeirio materion sydd y tu allan i'ch cyfrifoldeb neu eich cylch gwaith
- y gweithdrefnau ar gyfer cydymffurfio â deddfwriaeth neu reoliad diogelu data perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
ASTAP1
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Tai, Gweinyddwr Tai Cynorthwyol, Gweinyddwr Tai, Cynorthwyydd Tai, Rheolwr Tai, Swyddog Budd-daliadau, Swyddog/Cynorthwyydd Trethiant a Budd-daliadau, Cynorthwyydd Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Trafodwr Gosod Tai, Swyddog/Cynorthwyydd Refeniw, Swyddog/Rheolwr Eiddo Cynorthwyol, Swyddog/Cynorthwyydd Cymorth Tai
Cod SOC
4112
Geiriau Allweddol
cwsmeriaid; cymorth; gwasanaethau; cytundebau; deddfwriaeth; dogfennaeth; cynhwysiant cymdeithasol; proses; datrys anghydfodau; cydymffurfiaeth