Rheoli tîm amlddiwylliannol

URN: INSIWS005
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithio Rhyngddiwylliannol: Safonau ar gyfer gweithio gyda phobl o wahanol wledydd a diwylliannau amrywiol;
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n rheoli tîm amlddiwylliannol. 

Mae rheoli tîm amlddiwylliannol yn golygu datblygu diwylliant tîm a rennir, annog aelodau’r tîm i barchu ei gilydd, hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant, gwneud yn siŵr bod pob aelod o'r tîm yn gallu dilyn gwybodaeth a gyfathrebir, prosesau gwaith a hyfforddiant. 

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n ymwneud â rheoli tîm amlddiwylliannol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cymell eich cydweithwyr i weithio fel tîm
  2. hyrwyddo parch a chydraddoldeb ymhlith aelodau eich tîm
  3. gwneud pawb yn ymwybodol o’u gwerthoedd, eu credoau a’u confensiynau diwylliannol
  4. gwneud yn siŵr bod cyfraniadau aelodau eich tîm yn cael eu rhannu a'u gwerthfawrogi
  5. ystyried nodweddion cyffredin i gyflawni awyrgylch o gyd-dderbyn a phwrpas
  6. datblygu diwylliant gweithio sy'n cynyddu cynhyrchiant ochr yn ochr â chydbwyso anghenion diwylliannol a disgwyliadau holl aelodau'r tîm
  7. gwneud yn siŵr bod holl aelodau'r tîm yn cael eu cynnwys yn y diwylliant gweithio
  8. annog aelodau eich tîm i ryngweithio â'i gilydd a chydweithwyr eraill o wahanol wledydd neu ddiwylliannau amrywiol
  9. gwneud yn siŵr bod eich tîm yn bodloni eu hamcanion yn ogystal â dangos hyblygrwydd tuag at anghenion diwylliannol aelodau'r tîm
  10. defnyddio sgiliau, profiadau a chyfraniadau aelodau eich tîm er budd perfformiad a chanlyniadau cyffredinol
  11. gwneud yn siŵr bod pawb yn deall gwybodaeth a gyfathrebir rhwng timau
  12. herio unrhyw ystrydebau, rhagfarn neu hiliaeth a fynegir gan bobl eraill amdanoch chi neu aelodau eraill yn y tîm
  13. cynnal parch a chyfrinachedd pan nad ydych yn gallu deall eu barn neu eu hymddygiad neu gydymdeimlo â nhw
  14. cael y cymorth sydd ei angen arnoch chi i ddatrys materion a achosir gan densiwn rhyngddiwylliannol neu gamddealltwriaeth
  15. dilyn polisïau a gweithdrefnau cydraddoldeb ac amrywiaeth

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwysigrwydd cymhwysedd diwylliannol yng nghyd-destun amgylchedd gwaith amrywiol a byd-eang
  2. sut y gall gwahaniaethau a thebygrwydd rhwng eich ymddygiad diwylliannol chi a rhai pobl eraill effeithio ar arferion gwaith
  3. sut i hyrwyddo parch a chynwysoldeb yn y gweithle
  4. y gwahaniaeth mewn agweddau at rolau dynion neu fenywod
  5. lefelau hierarchaeth a ffurfioldeb confensiynau cyfarfodydd busnes
  6. sut gall eich gwerthoedd a'ch credoau chi a rhai pobl eraill newid o ganlyniad i ddylanwad diwylliannol ar arferion gwaith
  7. yr amrywiaeth mewn safbwyntiau am bobl o wahanol wledydd neu ddiwylliannau amrywiol
  8. sut i osgoi canfyddiadau unigol a chyffredin, rhagfarn, ystrydebau, ymddygiadau, rhagfarnau neu hen wybodaeth am arferion gwaith
  9. sut i hyrwyddo cymhwysedd diwylliannol yn eich tîm a'ch sefydliad
  10. y ffactorau gwleidyddol a hanesyddol allweddol sy'n effeithio ar y wlad neu'r diwylliant yr ydych yn gweithio gyda nhw
  11. sut y gall disgwyliadau newid neu effeithio ar foeseg busnes, gwneud penderfyniadau, cyfathrebu, trafodion ariannol, gweithdrefnau gweithio a meithrin perthynas
  12. yr amrywiaeth o dechnegau ac arddulliau cyfathrebu a ddefnyddir gennych chi a'r bobl o'r gwledydd neu'r diwylliannau eraill
  13. y ffyrdd o leihau camddealltwriaeth a chyfathrebu’n well â phobl sydd â mamiaith wahanol i chi
  14. manteision, defnydd ac anfanteision gwahanol ddulliau cyfathrebu
  15. y termau a'r ymadroddion sy'n angenrheidiol i wneud swyddi penodol
  16. cyrsiau perthnasol Saesneg fel iaith dramor
  17. y gwasanaethau cyfieithu neu gyfieithu ar y pryd
  18. pwysigrwydd cymryd amser i wrando, defnyddio ymadroddion syml, osgoi jargon ac idiomau
  19. yr ystod o heriau wrth gyfathrebu â phobl o ddiwylliant arall sy'n rhannu'r un iaith gyntaf â chi
  20. eich gwybodaeth ddiwylliannol, leol neu gymunedol eich hun neu bobl eraill, sgiliau rhyngbersonol
  21. y mathau o hyfforddiant neu gymorth i ddatblygu eich sgiliau a'ch cymwyseddau ar gyfer gweithio gyda phobl o wahanol wledydd neu ddiwylliannau amrywiol
  22. hyfforddiant sgiliau rhyngddiwylliannol
  23. y cyrsiau neu’r rhaglenni ymwybyddiaeth o wledydd eraill
  24. manteision mentora, hyfforddi a chysgodi yn y gwaith
  25. sut i ddod o hyd i wybodaeth i bobl newydd o wahanol wledydd neu ddiwylliannau amrywiol a sut i'w gwneud yn hygyrch neu gyfeirio ati
  26. pryd y bydd angen i chi ofyn am gyngor neu gymorth ar eich cyfer chi eich hun neu aelodau o'ch tîm
  27. ffactorau i'w hystyried wrth ddatblygu diwylliant gweithio
  28. manteision annog aelodau’r tîm i rannu eu gwybodaeth ryngddiwylliannol a dysgu oddi wrth ei gilydd yn ogystal â chynorthwyo ei gilydd
  29. y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â rheoli tîm amlddiwylliannol
  30. yr amrywiaeth o arferion sy’n gallu achosi anghytundeb, camddealltwriaeth neu wrthdaro
  31. sut i ddiwallu anghenion diwylliannol aelodau eich tîm a chynnal tegwch i bawb ar yr un pryd
  32. y gweithgareddau neu’r arferion gwaith lle mae angen i chi ystyried gwahanol safbwyntiau diwylliannol aelodau'r tîm
  33. sut i ddatrys gwrthdaro, anghydfod ac anghytundeb
  34. y dulliau gwella perthnasoedd gwaith rhwng aelodau tîm
  35. y ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfer cydraddoldeb ac amrywiaeth
  36. pam mae’n bwysig adolygu eich polisïau ac arferion gwaith yn rheolaidd
  37. beth i'w wneud neu at bwy i droi os ydych chi neu gydweithiwr yn teimlo eich bod yn cael eich trin yn annheg yn y gwaith

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills CFA

URN gwreiddiol

CFAIWS4

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfathrebu, Cyffredinol, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol, Mentrau Gwasanaeth, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd, Rheolwyr Swyddogaethol, Gweithwyr Ymchwil Proffesiynol, Lletygarwch ac arlwyo, Llyfrgellwyr a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig, Teithio a thwristiaeth, Warws a Dosbarthu, Y Gyfraith a gwasanaethau cyfreithiol, Rheolwyr Cynhyrchu, Llywodraeth a Sefydliadau Cysylltiedig, Menter manwerthu a masnachol, Galwedigaethau Glanhau Elfennol, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Y Celfyddydau Perfformio, Galwedigaethau Gweinyddol ac Ysgrifenyddol, Gweithrediadau cludiant a chynnal a chadw, Pensaernïaeth, Datblygiad a Lles Plant, Busnes, Gweinyddu a'r Gyfraith, y Celfyddydau, y Cyfryngau a Chyhoeddi, Iechyd, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Amaethyddiaeth; Rheolwyr ac Uwch-swyddogion, Gweithwyr Peirianneg Proffesiynol, Cymorth Systemau, Rheolwyr Corfforaethol ac Uwch-swyddogion, Rheolwyr a Pherchnogion Lletygarwch, Adeiladu, cynllunio a'r amgylchedd adeiledig , Adeiladu ac adeiladu;, Adwerthu a chyfanwerthu, Iaith, llenyddiaeth a diwylliant, Marchnata a gwerthu, Rheolwyr Ansawdd a Gofal Cwsmer, Sefydliad Ariannol a Rheolwr Swyddfa, Rheolwyr Dosbarthu, Swyddogion Gwasanaethau Diogelu, Galwedigaethau Ysgrifenyddol a Chysylltiedig, Galwedigaethau Crefftau Medrus, Galwedigaethau Cadw Tŷ, NEC Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Galwedigaethau Gwerthu a Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Cynorthwywyr Gwerthu ac Arianwyr Manwerthu, Galwedigaethau Cysylltiedig â Gwerthu, Galwedigaethau Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Gweithredwyr Proses, Offer a Pheiriannau, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol Elfennol, Galwedigaethau Gwerthu Elfennol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Trafnidiaeth, Cymdeithion Cyfreithiol

Cod SOC

4159

Geiriau Allweddol

iaith, cyfathrebu, diwylliant, amlddiwylliannol, rhyngddiwylliannol, ymfudwr, tramor, rhyngwladol, gwlad arall, gwahaniaeth, hiliaeth, rhagfarn, ystrydeb, camddealltwriaeth, gwrthdaro, amrywiaeth, cydraddoldeb, Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), Saesneg, hyfforddiant, adeiladu tîm, rheolaeth, effeithlonrwydd