Hwyluso dulliau rheoli perfformiad

URN: INSHR012
Sectorau Busnes (Cyfresi): Adnoddau Dynol
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â hwyluso dulliau rheoli perfformiad. Mae'n cynnwys nodi arferion gorau, cynllunio a dylunio systemau rheoli perfformiad sydd wedi'u hintegreiddio â phrosesau AD eraill, rhoi ymyriadau rheoli perfformiad ar waith a rhoi cymorth priodol i reolwyr ac unigolion. 

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr AD proffesiynol sy'n ymwneud â rheoli perfformiad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi tueddiadau cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg, arloeseddau ac arferion gorau mewn perthynas â systemau rheoli perfformiad
  2. dylunio systemau rheoli perfformiad sydd wedi'u hintegreiddio â phrosesau AD ac sy'n bodloni anghenion sefydliadol
  3. rhoi ymyriadau rheoli perfformiad ar waith
  4. cynorthwyo rheolwyr wrth roi systemau rheoli perfformiad ar waith
  5. defnyddio polisïau rheoli perfformiad ar draws y sefydliad
  6. nodi newidiadau deddfwriaethol a allai effeithio ar systemau rheoli perfformiad
  7. cynorthwyo gweithwyr i ddatrys problemau o ran perfformiad
  8. gwerthuso systemau rheoli perfformiad y sefydliad
  9. gwneud awgrymiadau ar gyfer gwella systemau rheoli perfformiad y sefydliad yn barhaus

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich strategaethau, gwerthoedd, nodau ac amcanion sefydliadol
  2. y sectorau y mae eich sefydliad yn gweithredu ynddynt a'r ffactorau marchnad sy'n effeithio ar ei berfformiad
  3. ffynonellau gwybodaeth arbenigol ac arbenigedd a sut i gael gafael ar y rhain
  4. sut i nodi tueddiadau cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg, arloeseddau ac arferion gorau mewn perthynas â systemau rheoli perfformiad
  5. sut i ddylunio systemau rheoli perfformiad sydd wedi'u hintegreiddio â phrosesau AD ac sy'n bodloni anghenion sefydliadol
  6. egwyddorion adborth parhaus ar reoli perfformiad
  7. sut mae rheoli perfformiad yn cyd-fynd â strategaeth dalent
  8. sut i roi ymyriadau rheoli perfformiad ar waith
  9. y meddalwedd rheoli perfformiad perthnasol
  10. gwerth adborth, prosesau gwerthuso a gwobrau sy'n gysylltiedig â pherfformiad mewn swyddogaethau AD
  11. rôl cymwyseddau ac amcanion ym maes rheoli perfformiad a sut i'w defnyddio i atgyfnerthu diwylliant sefydliadol
  12. y cymorth perthnasol i reolwyr wrth weithredu systemau rheoli perfformiad
  13. sut i gymhwyso polisïau rheoli perfformiad ar draws y sefydliad
  14. ffynonellau gwybodaeth am newidiadau deddfwriaethol
  15. sut i gynorthwyo gweithwyr i ddatrys problemau o ran perfformiad
  16. sut i werthuso systemau rheoli perfformiad y sefydliad
  17. egwyddorion hyblygrwydd, gwelliant parhaus ac anghenion partneriaeth busnes
  18. arferion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)
  19. y rheoliad diogelu data perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2030

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAHR9

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr proffesiynol adnoddau dynol a gweinyddol, Rheolwr personél, hyfforddiant a chysylltiadau diwydiannol, Swyddogion personél a chysylltiadau diwydiannol

Cod SOC

4136

Geiriau Allweddol

Adnoddau dynol; AD; systemau rheoli perfformiad