Cynllunio prosesau ymgysylltu â gweithwyr a’u rhoi ar waith

URN: INSHR009
Sectorau Busnes (Cyfresi): Adnoddau Dynol
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio prosesau ymgysylltu â gweithwyr a’u rhoi ar waith. Mae’n cynnwys sefydlu ysgogwyr ymgysylltu â gweithwyr, cynllunio mentrau ymgysylltu â gweithwyr, gwneud yn siŵr bod prosesau ymgysylltu â gweithwyr yn cael eu rhoi ar waith, a rhoi cymorth i reolwyr, lle bo angen. 

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol AD ​​sy'n ymwneud â chynllunio datrysiadau ymgysylltu â gweithwyr a’u rhoi ar waith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sefydlu'r ffactorau sy'n ysgogi ymgysylltiad â gweithwyr yn eich sefydliad
  2. alinio ymgysylltiad â gweithwyr â swyddogaethau AD ehangach a strategaethau sefydliadol
  3. nodi’r berthynas rhwng ymgysylltu â gweithwyr a pherfformiad sefydliadol
  4. alinio pob polisi a phroses â gwerthoedd sefydliadol a disgwyliadau ymddygiadol
  5. cynllunio mentrau i ysgogi ymgysylltiad â gweithwyr ar draws y sefydliad
  6. diffinio'r metrigau ymgysylltu perthnasol
  7. nodi a hyrwyddo arferion da i adeiladu a chynnal ymgysylltiad gweithwyr â'r sefydliad a'u gwaith
  8. dylunio prosesau boddhad ac adborth gweithwyr a’u rhoi ar waith
  9. mesur ac olrhain perfformiad ymgysylltu â gweithwyr yn erbyn data perthnasol
  10. cydweithio â rheolwyr ym mhob agwedd ar gynllunio ar gyfer ymgysylltu â gweithwyr
  11. rhoi canlyniadau’r adborth a dderbyniwyd ar waith i wella boddhad gweithwyr
  12. rhoi cynnig brand y cyflogwr r waith a’i gyfathrebu
  13. rhoi prosesau ar waith sy'n galluogi gweithwyr i godi pryderon ynghylch diffyg cydymffurfio â gwerthoedd a disgwyliadau o ran ymddygiad
  14. adolygu perfformiad prosesau ymgysylltu â gweithwyr eich sefydliad
  15. gwneud awgrymiadau ar gyfer gwella’r prosesau yn barhaus

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich strategaethau, gwerthoedd, nodau ac amcanion sefydliadol
  2. y sectorau y mae eich sefydliad yn gweithredu ynddynt a'r ffactorau marchnad sy'n effeithio ar ei berfformiad
  3. ffynonellau gwybodaeth arbenigol ac arbenigedd a sut i gael gafael ar y rhain
  4. sut mae pwerau adnoddau dynol yn gyrru perfformiad sefydliadol
  5. egwyddorion asesu risgiau a’u lliniaru
  6. ysgogwyr allweddol ymgysylltu â gweithwyr
  7. y technolegau a'r offer perthnasol ar gyfer rheoli ymgysylltiad â gweithwyr
  8. sut i nodi'r berthynas rhwng ymgysylltu â gweithwyr a pherfformiad sefydliadol
  9. y mathau o fentrau sy’n gallu ysgogi ymgysylltiad â gweithwyr ar draws sefydliad
  10. sut i nodi a hyrwyddo arferion da i adeiladu a chynnal ymgysylltiad gweithwyr â'r sefydliad a'u gwaith
  11. sut i ddatblygu cynnig brand cyflogwr a’i ddefnyddio i ymgysylltu â gweithwyr
  12. gwerth cael rheolwyr i chwarae rhan mewn cynllunio ymgysylltu â gweithwyr
  13. y mathau o ddata perfformiad y gellir eu defnyddio i fesur ac olrhain ymgysylltiad â gweithwyr a sut i wneud defnydd ohono
  14. sut i ddylunio prosesau boddhad ac adborth gweithwyr a’u rhoi ar waith
  15. sut i lywio gwelliannau posibl yn seiliedig ar adborth a dderbyniwyd
  16. pwysigrwydd gweithio gyda rheolwyr i ymateb i ganlyniadau ymgysylltu â gweithwyr
  17. y mathau o gymorth y gallai fod eu hangen ar reolwyr i gyfathrebu â gweithwyr am eu hymgysylltiad
  18. cynnig brand y cyflogwr a sut i'w ddarparu
  19. sut i ymgorffori gwerthoedd sefydliadol a disgwyliadau ymddygiadol ym mhob polisi a phroses
  20. yr ystod o brosesau sy'n galluogi gweithwyr i godi pryderon am ddiffyg cydymffurfio â gwerthoedd a disgwyliadau ymddygiadol a sut i'w rhoi ar waith
  21. pwysigrwydd monitro effeithiolrwydd ymgysylltu â gweithwyr
  22. egwyddorion hyblygrwydd, gwelliant parhaus ac anghenion partneriaeth busnes
  23. arferion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)
  24. y rheoliad diogelu data perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2030

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAHR13

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr proffesiynol adnoddau dynol a gweinyddol, Rheolwr personél, hyfforddiant a chysylltiadau diwydiannol, Swyddogion personél a chysylltiadau diwydiannol

Cod SOC

4136

Geiriau Allweddol

Adnoddau dynol; AD; datrysiadau ymgysylltu ym maes cyflogaeth