Rheoli strategaethau gwobrwyo a chydnabod
URN: INSHR004
Sectorau Busnes (Cyfresi): Adnoddau Dynol
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo:
2025
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli strategaethau gwobrwyo a chydnabod. Mae'n cynnwys cynllunio, gweithredu a gwerthuso systemau gwobrwyo a chydnabod fforddiadwy, gan wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cymhwyso'n deg ar draws y sefydliad a gwneud argymhellion ar gyfer newid.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr AD proffesiynol sy'n ymwneud â rheoli strategaethau gwobrwyo a chydnabod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymchwilio i dueddiadau presennol a rhai sy'n dod i'r amlwg, arloeseddau ac arferion gorau sy'n ymwneud â systemau gwobrwyo a chydnabod
- cynnal ymarferion meincnodi i lywio cynigion ar gyfer lleoli yn y farchnad
- nodi’r risgiau demograffig i’ch sefydliad
- datblygu systemau gwobrwyo a chydnabod yn unol â deddfwriaeth berthnasol a strategaeth cydraddoldeb
- rheoli'r broses lywodraethu ar gyfer materion cyflog ar lefel weithredol
- casglu a pharatoi gwybodaeth ac argymhellion perthnasol i bwyllgorau sy'n gyfrifol am faterion cyflog lefel ar lefel weithredol
- rhoi data a gwybodaeth i randdeiliaid allanol, rheoleiddwyr a chyfranddalwyr
- rheoli materion gwobrwyo gweithwyr unigryw
- cyflwyno rhaglenni gwobrwyo a chydnabod blynyddol a pharhaus
- rhoi systemau gwobrwyo a chydnabod ar waith ar draws y sefydliad cyfan
- cynorthwyo rheolwyr gyda phenderfyniadau gwobrwyo a chydnabod
- cynorthwyo i ddatrys unrhyw faterion sy’n codi o’r penderfyniadau hyn
- casglu data gwobrwyo a chydnabod a'i alinio â deddfwriaeth berthnasol
- gofyn am adborth ar systemau gwobrwyo a chydnabod i lywio eu gwelliant parhaus
- nodi newidiadau deddfwriaethol a allai effeithio ar systemau gwobrwyo a chydnabod
- adolygu a gwerthuso costau a buddion y pecyn gwobrwyo a chydnabod
- gwneud argymhellion ar gyfer newid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich strategaethau, gwerthoedd, nodau ac amcanion sefydliadol
- y sectorau y mae eich sefydliad yn gweithredu ynddynt a'r ffactorau marchnad sy'n effeithio ar ei berfformiad
- sut mae strategaethau gwobrwyo a chydnabod yn cyd-fynd â gwerthoedd a diwylliant y sefydliad
- ffynonellau gwybodaeth arbenigol ac arbenigedd a sut i gael gafael ar y rhain
- sut i nodi tueddiadau cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg, arloeseddau ac arferion gorau sy'n ymwneud â systemau gwobrwyo a chydnabod
- sut i gynnal ymarferion meincnodi a defnyddio'r canlyniadau i wneud cynigion ar gyfer lleoli yn y farchnad
- y risgiau demograffig sy’n berthnasol i’r sefydliad
- sut i fynd i'r afael â gwahaniaethau mewn cyflogau
- sut i ddatblygu systemau gwobrwyo a chydnabod i ddenu a chadw grwpiau a allai fod yn ystyried gadael eu swyddi
- ystod y gwobrau ariannol ac anariannol
- mantolen eich sefydliad ac effaith costau gwobrwyo
- sut i ddatblygu systemau gwobrwyo a chydnabod
- y broses lywodraethu mewn perthynas â materion cyflog ar lefel weithredol
- y wybodaeth sydd ei hangen ar bwyllgorau sy'n gyfrifol am faterion cyflog ar lefel weithredol
- y data a'r wybodaeth sydd eu hangen ar randdeiliaid allanol, rheoleiddwyr a chyfranddalwyr
- dulliau rheoli ac ymgysylltu â rhanddeiliaid
- sut i reoli materion gwobrwyo a chydnabod mewn perthynas â gweithwyr unigryw
- sut i gyflwyno rhaglenni gwobrwyo a chydnabod blynyddol a pharhaus
- sut i roi systemau gwobrwyo a chydnabod ar waith ar draws y sefydliad cyfan
- y technegau cynorthwyo i reolwyr mewn cysylltiad â phenderfyniadau gwobrwyo a chydnabod
- y dulliau a ddefnyddir i ddatrys y problemau sy’n gysylltiedig â phenderfyniadau gwobrwyo a chydnabod
- y mathau o ddata a'i gydymffurfiaeth â deddfwriaeth berthnasol
- sut i gael adborth ar systemau gwobrwyo a chydnabod
- dulliau dadansoddi a dehongli'r data
- ffynonellau gwybodaeth am newidiadau deddfwriaethol
- sut i adolygu a gwerthuso pecynnau gwobrwyo a chydnabod
- egwyddorion hyblygrwydd, gwelliant parhaus ac anghenion partneriaeth busnes
- arferion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)
- y rheoliad diogelu data perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2030
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
CFAHR10
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr proffesiynol adnoddau dynol a gweinyddol, Rheolwr personél, hyfforddiant a chysylltiadau diwydiannol, Swyddogion personél a chysylltiadau diwydiannol
Cod SOC
4136
Geiriau Allweddol
Adnoddau dynol; AD; gwobrwyo; strategaethau cydnabod; systemau gwobrwyo