Cynllunio strategaeth cysylltiadau gweithwyr a’i rhoi ar waith
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio strategaeth cysylltiadau gweithwyr a’i rhoi ar waith. Mae’r strategaeth yn ofynnol i wneud yn siŵr bod y berthynas rhwng sefydliad a'i weithwyr yn cael ei rheoli'n briodol ac yn unol â deddfwriaeth cyflogaeth. Mae'n cynnwys gwneud yn siŵr bod polisïau, arferion a gweithdrefnau yn gynhwysfawr, yn cyd-fynd â gwerthoedd a diwylliant sefydliadol a’u bod yn cael eu deall yn dda o fewn y swyddogaeth AD a'r sefydliad ehangach. Mae'n ymdrin â datrys materion cysylltiadau gweithwyr a thrafod gyda chynrychiolwyr gweithwyr.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol AD sy'n ymwneud â chynllunio strategaeth cysylltiadau gweithwyr a’i rhoi ar waith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi eich gwerthoedd, nodau ac amcanion sefydliadol
- coladu’r holl bolisïau ac arferion sefydliadol ac alinio'r strategaeth cysylltiadau gweithwyr â nhw
- alinio deunyddiau adnoddau dynol â deddfwriaeth, codau ymarfer a diwylliant sefydliadol cyfoes
- cynllunio cynllun hyfforddi priodol a’i gyflwyno er mwyn cyflawni a chynnal cydymffurfiaeth yr holl weithwyr
- integreiddio’r holl bolisïau, arferion a gweithdrefnau cysylltiadau gweithwyr â’r swyddogaeth AD
- monitro cydymffurfiaeth rheolwyr â pholisïau ac arferion cysylltiadau gweithwyr
- rhannu polisïau ac arferion cysylltiadau gweithwyr â phob gweithiwr a gwneud yn siŵr eu bod yn eu darllen a'u cydnabod
- datrys materion cysylltiadau gweithwyr yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
- trafod materion cysylltiadau gweithwyr gyda chynrychiolwyr gweithwyr
- cadw cofnodion diogel o faterion cysylltiadau gweithwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich strategaethau, gwerthoedd, nodau ac amcanion sefydliadol
- y sectorau y mae eich sefydliad yn gweithredu ynddynt a'r ffactorau marchnad sy'n effeithio ar ei berfformiad
- ffynonellau gwybodaeth arbenigol ac arbenigedd a sut i gael gafael ar y rhain
- sut mae pwerau adnoddau dynol yn gyrru perfformiad sefydliadol
- y ddeddfwriaeth berthnasol mewn perthynas â chysylltiadau gweithwyr
- polisïau, arferion a gweithdrefnau cysylltiadau gweithwyr y sefydliad
- y dulliau cyfleu polisïau, arferion a gweithdrefnau cysylltiadau gweithwyr i weithwyr
- y mathau o gymorth y gallai fod eu hangen ar weithwyr gyda pholisïau, arferion a gweithdrefnau cysylltiadau gweithwyr
- sut i integreiddio polisïau, arferion a gweithdrefnau cysylltiadau gweithwyr o fewn y swyddogaeth AD
- goblygiadau peidio â chydymffurfio â pholisïau, arferion a gweithdrefnau cysylltiadau gweithwyr
- sut i gymhwyso ystod o sgiliau rhyngbersonol a gwybodaeth arbenigol i ddatrys materion cysylltiadau gweithwyr
- y technegau trafod a chyfryngu a sut i gymhwyso'r rhain mewn trafodaethau gyda chynrychiolwyr gweithwyr
- y cofnodion sydd eu hangen ar gyfer materion cysylltiadau gweithwyr a pha mor hir i'w cadw
- egwyddorion hyblygrwydd, gwelliant parhaus ac anghenion partneriaeth busnes
- arferion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)
- y rheoliad diogelu data perthnasol