Rhoi strategaeth AD ar waith a’i gwerthuso

URN: INSHR002
Sectorau Busnes (Cyfresi): Adnoddau Dynol
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi strategaeth AD ar waith a’i gwerthuso. Mae'n cynnwys nodi Dangosyddion Perfformiad Allweddol sy'n canolbwyntio ar bobl, unrhyw rwystrau posibl o ran rhoi’r strategaeth ar waith a’i chynllunio, a chael adnoddau ar ei chyfer. Mae hefyd yn cynnwys cael ymrwymiad gan weithwyr a rhanddeiliaid eraill a gwerthuso'r strategaeth yn erbyn nodau perfformiad a meini prawf llwyddiant y cytunwyd arnynt. 

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr AD proffesiynol sy'n ymwneud â rhoi strategaeth AD ar waith a’i gwerthuso.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. diffinio dangosyddion perfformiad allweddol sefydliadol sy'n canolbwyntio ar bobl ac ysgogwyr ar gyfer mesur llwyddiant
  2. nodi unrhyw rwystrau posibl i roi strategaeth AD ar waith
  3. asesu'r risgiau a creu dulliau cymhleth i’w lliniaru
  4. datblygu cynllun ar gyfer rhoi strategaeth AD ar waith
  5. nodi'r rhanddeiliaid allweddol yn y broses o’i rhoi ar waith ac ennill eu hymrwymiad
  6. dirprwyo gweithgareddau i weithwyr priodol ar draws gwahanol adrannau
  7. nodi'r amserlenni a'r meini prawf llwyddiant ar gyfer gwerthuso'r strategaeth
  8. monitro cydymffurfiaeth barhaus â gofynion cyfreithiol, codau ymarfer a gweithdrefnau'r sefydliad
  9. casglu data dilys a chynhwysfawr, gan gynnwys adborth gan randdeiliaid
  10. gwerthuso'r strategaeth yn erbyn y dulliau mesur a'r meini prawf llwyddiant y cytunwyd arnynt
  11. monitro strategaeth AD yn barhaus drwy goladu adborth ac argymhellion ar gyfer gwella neu gynnal a chadw

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich strategaethau, gwerthoedd, nodau ac amcanion sefydliadol
  2. dangosyddion perfformiad allweddol eich sefydliad sy'n canolbwyntio ar bobl
  3. y sectorau y mae eich sefydliad yn gweithredu ynddynt a'r ffactorau marchnad sy'n effeithio ar ei berfformiad
  4. ffynonellau gwybodaeth arbenigol ac arbenigedd a sut i gael gafael ar y rhain
  5. y rhwystrau posibl i roi strategaeth AD ar waith a ffyrdd o'u datrys
  6. egwyddorion asesu a lliniaru risg
  7. sut mae pwerau adnoddau dynol yn gyrru perfformiad sefydliadol
  8. sut i baratoi cynllun i roi strategaeth ar waith
  9. yr adnoddau i helpu i gyflwyno'r strategaeth AD
  10. y rhanddeiliaid mewnol ac allanol i roi’r strategaeth AD ar waith
  11. strategaeth gyfathrebu eich sefydliad
  12. sut i lywio a dylanwadu ar y broseso o roi’r strategaeth AD gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol
  13. sut i ddewis a chymhwyso technegau priodol ar gyfer casglu a dadansoddi data
  14. sut i werthuso gwybodaeth feintiol ac ansoddol yn erbyn y meini prawf llwyddiant y cytunwyd arnynt
  15. sut i grynhoi a chyflwyno data i ddylanwadu ar y gwerthusiad o’r strategaeth
  16. sut i wneud argymhellion i addasu’r strategaeth neu ei chynnal
  17. egwyddorion hyblygrwydd, gwelliant parhaus ac anghenion partneriaeth busnes
  18. arferion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)
  19. y rheoliad diogelu data perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2030

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAHR2

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr proffesiynol adnoddau dynol a gweinyddol, Rheolwr personél, hyfforddiant a chysylltiadau diwydiannol, Swyddogion personél a chysylltiadau diwydiannol

Cod SOC

4136

Geiriau Allweddol

Adnoddau dynol; AD; strategaeth AD; Gwerthusiad; Rhoi ar waith