Datblygu strategaeth Adnoddau Dynol (AD)
URN: INSHR001
Sectorau Busnes (Cyfresi): Adnoddau Dynol
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo:
2025
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu strategaeth AD a chytuno arni. Mae'n cynnwys gwerthuso strategaethau presennol yn erbyn anghenion sefydliadol a gwneud yn siŵr bod y strategaeth AD yn cyd-fynd â diwylliant ac amcanion sefydliadol. Dylai strategaeth AD ystyried ffactorau allanol a mewnol hefyd, sut mae gweithwyr yn cael eu recriwtio, eu rheoli a'u datblygu yn unol â nodau sefydliadol.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol AD sy'n ymwneud â datblygu strategaeth AD.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- coladu a gwerthuso’r holl strategaethau a'u halinio â gwerthoedd ac ymddygiadau sefydliadol
- nodi anghenion ac amcanion sefydliadol mewn perthynas â strategaeth AD
- cynnal dadansoddiad o Gryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau (SWOT)
- pennu amserlenni ar gyfer datblygu’r strategaeth AD a’i chymeradwyo
- diffinio'r datganiad cenhadaeth AD o ran diben sefydliadol a chyfeiriad strategol
- rhoi ffactorau allanol a mewnol a’r diwylliant sefydliadol ar waith yn y strategaeth AD
- dadansoddi set sgiliau’r gweithwyr a’u gwerthuso
- cynnal dadansoddiad bwlch
- creu arferion perthnasol ar gyfer rheoli a datblygu talent
- diffinio tactegau caffael er mwyn denu talent a’i chadw
- cydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiol perthnasol, codau ymarfer a gweithdrefnau sefydliadol
- ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol yn y sefydliad i gytuno ar y strategaeth
- adolygu'r strategaeth AD yn rheolaidd er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich strategaethau, gwerthoedd, nodau ac amcanion sefydliadol
- y sectorau y mae eich sefydliad yn gweithredu ynddynt a'r ffactorau marchnad sy'n effeithio ar ei berfformiad
- ffynonellau gwybodaeth arbenigol ac arbenigedd a sut i gael gafael ar y rhain
- sut mae pwerau adnoddau dynol yn gyrru perfformiad sefydliadol
- egwyddorion dadansoddiad o Gryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau (SWOT)
- egwyddorion dadansoddiad bwlch
- y broses cynllunio olyniaeth
- sut i ddatblygu strategaeth AD a'i halinio â pherfformiad ac anghenion sefydliadol
- cydrannau allweddol strategaeth AD eich sefydliad
- egwyddorion caffael talent a recriwtio
- dulliau rheoli ac ymgysylltu â rhanddeiliaid
- egwyddorion rheoli a datblygu talent
- y gofynion cydraddoldeb, amrywiaeth a moesegol mewn perthynas â strategaeth AD
- sut i asesu effaith debygol y strategaeth AD ar swyddogaethau sefydliadol eraill
- dulliau cymeradwyo'r strategaeth
- yr ystod o ffactorau allanol a mewnol sy'n effeithio ar berfformiad a diwylliant y sefydliad
- egwyddorion hyblygrwydd, gwelliant parhaus ac anghenion partneriaeth busnes
- arferion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)
- y rheoliad diogelu data perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2030
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Instructus
URN gwreiddiol
CFAHR1
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr proffesiynol adnoddau dynol a gweinyddol, Rheolwr personél, hyfforddiant a chysylltiadau diwydiannol, Swyddogion personél a chysylltiadau diwydiannol
Cod SOC
4136
Geiriau Allweddol
Adnoddau dynol; AD; Strategaeth AD; canllawiau