Monitro a chynnal ansawdd cynhyrchion prosesau trin
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio data a gwybodaeth i wirio ansawdd a maint y deunydd sydd i'w drin wrth iddo fynd i mewn i'r safle ac ar wahanol gamau'r broses drin. Mae'n golygu monitro'r prosesau trin mewn safleoedd trin a gwneud newidiadau i weithrediad y safle pan fo angen er mwyn optimeiddio'r prosesau a sicrhau ansawdd y cynhyrchion.
Gall fod yn berthnasol i unrhyw broses drin gan gynnwys tynnu dŵr, rheoli dŵr crai a rhag-driniaeth, diheintio, dosio a rheoli cemegol, gloywi, hidlo, osôn, pilenni, cyfnewid ïonau dethol, amsugno, rheoli pla, diheintio uwchfioled, mysgu, awyriad, treulio slwtsh, tewychu neu ddisbyddu mecanyddol. Gall hefyd gyfeirio at reoli'r cyflenwad i'w ddosbarthu gan gynnwys pwyntiau storio a phwmpio.
Mae'n cynnwys monitro'r prosesau trin mewn safleoedd trin, asesu p'un ai yw mewnbynnau ac allbynnau'r safle trin yn cydymffurfio â'r gofynion a gwneud newidiadau i weithrediad y safle pan fo angen er mwyn optimeiddio'r prosesau a sicrhau ansawdd y cynhyrchion. Mae hefyd yn golygu cyhoeddi ac arddangos yr holl rybuddion diogelwch a chael gwared ar sgil-gynhyrchion y broses yn ddiogel.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer gweithwyr sy'n gweithio mewn safleoedd prosesu dŵr, dŵr gwastraff a thrin slwtsh.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- monitro’n rheolaidd yn unol â’r amlder a nodir yng ngweithdrefnau’r safle
- cadarnhau bod offer cofnodi llif, monitorau ansawdd a dangosyddion lefelau yn gweithio fel y nodir ym manyleb y safle drwy ddehongli'r data monitro
- cymharu darlleniadau'r safle a data arall gyda'r amserlen weithredu a'r cyfarwyddiadau gweithredu
- cadarnhau bod y gweithdrefnau ar gyfer casglu data drwy asesu gweledol a phrofion ansawdd yn parhau i fod yn ddigonol a'u bod yn cydymffurfio â'r cyfarwyddiadau gweithredu
- cadarnhau bod y gweithdrefnau ar gyfer cymryd samplau i'w profi yn parhau i fod yn ddigonol a'u bod yn cydymffurfio â'r cyfarwyddiadau gweithredu
- gwirio ansawdd a nifer ar bwyntiau allweddol yn erbyn gofynion prosesu
- monitro'r casglu a'r defnydd o ddata llif, ansawdd a gweithredu a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r amserlen weithredu a'r cyfarwyddiadau gweithredu
- rhoi system monitro mewnbynnau ac allbynnau ar waith ble mae newidiadau wedi cael eu gwneud i'r broses
- asesu perfformiad y broses gan ddefnyddio cofnodion llif, ansawdd a gweithredu, ac arsylwadau uniongyrchol
- dadansoddi data o gofnodion ac arsylwadau uniongyrchol a phenderfynu pa newidiadau sydd eu hangen er mwyn sicrhau'r perfformiad gorau
- cynnal trwybwn y broses o fewn paramedrau penodedig
- asesu mewnbynnau ac allbynnau'r broses er mwyn penderfynu a yw'r safle wedi ymateb i newidiadau unioni a'i fod yn cydymffurfio â manylebau'r safle
- cwblhau gweithgareddau sy’n cynnal yr amodau perfformiad gorau posibl ar gyfer y prosesau trin
- cwblhau gweithgareddau er mwyn sicrhau bod y gwaith o gael gwared ar sgil-gynhyrchion y broses yn cydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth, safonau a chodau ymarfer
- sicrhau bod dull cyson o ymateb i larymau yn unol â gweithdrefnau gweithredol
- defnyddio data monitro ynni i gael y perfformiad ynni gorau posib
- datrys problemau sy'n codi o ddata anghywir neu anghyflawn am brosesau trin
- ymchwilio i, a datrys, methiannau o ran newidiadau i'r broses drwy offer, ffurfweddiadau, llif a dosiau
- cymryd camau cywiro cyn i ansawdd beidio â chydymffurfio â manylebau
- cwblhau dogfennau'r peiriannau a phrosesau a sicrhau eu bod yn cynnwys data cywir a chyfredol o fewn yr amserlen sy'n ofynnol
- dilyn y systemau sefydliadol ar gyfer storio a mewnbynnu data
- gwirio a chymharu data monitro gan ddefnyddio cofnodion y safle trin
- defnyddio darlleniadau data i gadarnhau bod yr holl allbynnau sy’n gadael y safle yn cydymffurfio â’r fanyleb
- gwneud awgrymiadau optimeiddio gan ddefnyddio data monitro perfformiad.
- rhoi gwybodaeth glir i'r rhai sydd â rôl reoli am unrhyw addasiadau i brosesau
- rhoi gwybod i bobl y bydd y gwaith yn effeithio arnynt pryd y mae disgwyl i beiriannau ac offer gael eu diffodd a phryd y mae disgwyl i beiriannau ac offer gael eu hail-gychwyn a'u hail-gomisiynu
- rhoi ac arddangos pob rhybudd diogelwch cyn newidiadau gweithredol i beiriannau ac offer
- cofnodi a rhoi gwybod am ddiffygion yn y broses, y camau unioni a gymerwyd, a'r canlyniadau a'r deilliannau
- cadw cofnodion yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- darparu mynediad at gofnodion data pan wneir cais amdanynt
- storio cofnodion peiriannau a phrosesau yn y man dynodedig
- dilyn gweithdrefnau diogelwch yn unol â pholisïau a phrotocolau sefydliadol
- ymgynghori a chysylltu â'r rheini sydd mewn swydd reoli ynglŷn â'r camau i'r cymryd pan fo newidiadau'n methu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth, safonau, codau ymarfer a rheoliadau’r diwydiant dŵr ar gyfer iechyd, diogelwch a hylendid yng nghyswllt eich swydd
- deddfwriaeth, safonau, codau ymarfer a rheoliadau’r diwydiant dŵr ar gyfer ansawdd a diogelu’r amgylchedd, a mesurau i leihau allyriadau a sylweddau niweidiol yng nghyswllt eich swydd
- yr agweddau ar eich gwaith a allai fod yn destun arolygiadau statudol a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer delio â nhw
- proses y sefydliad o ran rheoli sefyllfaoedd brys
- proses y sefydliad ar gyfer arferion gweithio diogel wrth ddelio â chyfarpar, offer a'r amgylchedd, gan gynnwys gweithio ar eich pen eich hun a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- eich rôl, eich cyfrifoldebau a'ch gweithredoedd eich hun o ran cynnal amodau amgylcheddol ffafriol
- prosesau'r sefydliad o ran trin dŵr neu ddŵr gwastraff
- y nodweddion sy’n gwahaniaethu, yr egwyddorion gweithredu sylfaenol a’r paramedrau allweddol sy’n gysylltiedig â rheoli dŵr amrwd, gan gynnwys tynnu dŵr, cyn triniaeth
- effaith prosesau trin dŵr ar gydymffurfiaeth ac iechyd y cyhoedd
- effaith bosibl yr amgylchedd, rheoliadau, cwsmeriaid, tywydd, newidiadau llif ac amrywiadau tymhorol ar brosesau trin dŵr
- effeithiau prosesau diheintio ar ansawdd dŵr, y dangosyddion allweddol a sut i'w dehongli gan gynnwys pH, cymylogrwydd, clorin, amser cyswllt, dwysedd uwchfioled, trosglwyddo uwchfioled, carbon organig uwchfioled/hydoddi, solidau crog, cymylogrwydd, amonia, ffosffad, tymheredd, metelau, nitrad
- mae’r camau i’w cymryd os yw samplau yn uwch na’r terfyn gweithredu yn cynnwys ail-samplu ac ail-brofi ar yr un safleoedd neu mewn safleoedd eraill, gwirio’r offer a chynnal profion calibradu, cymharu â thueddiadau ar-lein neu hanesyddol, archwiliadau i fyny’r afon
- y nodweddion sy’n gwahaniaethu, yr egwyddorion gweithredu sylfaenol a’r paramedrau allweddol ar gyfer dosio a rheoli cemegol gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â phympiau, canfod lefelau, byndiau, canfod nwy, gwactod, amodau tanciau, cylchdroi stoc, monitorau llif, newidiadau i dollau, canfod gollyngiadau, pibellau, canfod gwasgedd, cyfraddau dos, annog/cludo dŵr
- y nodweddion sy’n gwahaniaethu, yr egwyddorion gweithredu sylfaenol a’r paramedrau allweddol sy’n gysylltiedig ag egluro a setlo, gan gynnwys holltiadau llif, pympiau/dadbriddlifo, lefelau slwtsh, crafwyr, pontydd, patrymau llif a dosbarthiad, cyfarpar ategol, ailgylchredeg, gronyniadau
- y nodweddion sy’n gwahaniaethu, yr egwyddorion gweithredu sylfaenol a’r paramedrau allweddol ar gyfer prosesau hidlo gan gynnwys hidlo disgyrchiant yn gyflym, hidlo tywod yn araf, hidlo gwasgedd, uwch hidlo, micro hidlo ac osmosis gwrthdro
- dulliau i fonitro prosesau trin gan gynnwys dosbarthu llif, pympiau, ôl-lifo, gostyngiad pen, synwyryddion lefel, patrymau sgwrio a dosbarthu aer, cyfarpar ategol, sgimio, cyfryngau, gwasgedd, ailfwyno
- y nodweddion sy’n gwahaniaethu, yr egwyddorion gweithredu sylfaenol a’r paramedrau allweddol ar gyfer triniaethau dŵr datblygedig gan gynnwys osôn, pilenni, cyfnewid ïonau detholus, amsugno, diheintio uwchfioled, carbon gronynnog wedi’i actifadu (GAC)
- y nodweddion sy'n gwahaniaethu, yr egwyddorion gweithredu sylfaenol a'r paramedrau allweddol ar gyfer prosesau dŵr gwastraff gan gynnwys malu, treulio slwtsh, tewychu neu sychu slwtsh mecanyddol a thriniaeth eilaidd neu fiolegol
- llwybr llif y ffrydiau gwastraff a dangosyddion a goblygiadau monitro a gweithredu anghywir
- prosesau'r sefydliad o ran cael gwared ar sgil-gynhyrchion y broses drin
- y camau sy'n gysylltiedig â rhagweld newidiadau yn yr ansawdd a'r llif ac effaith y newidiadau hyn ar brosesau unedau a'r all-lif terfynol
- y camau sy'n gysylltiedig ag asesu effeithiau newidiadau ar yr ansawdd a'r llif
- y camau sy'n gysylltiedig ag asesu amrywiadau mewn perfformiad prosesau uned ac effaith yr amrywiadau hyn ar y broses drin yn ei chyfanrwydd
- y camau sy'n gysylltiedig ag asesu effaith methiant prosesau
- gweithdrefnau samplu a chamau gweithredu dynodedig os yw samplau’n torri terfynau camau gweithredu gan gynnwys ail-samplu ac ailbrofi o’r un pwyntiau, offer a gwiriadau graddnodi, cymharu â thueddiadau ar-lein neu hanesyddol, ymchwiliadau i fyny’r gadwyn
- sut i roi camau unioni ar waith er mwyn sicrhau bod y broses yn cyrraedd ei thargedau perfformiad
- sut i asesu effeithiau torri amodau caniatâd ar gyfer arllwysiadau o'r safle prosesu i'r amgylchedd lleol
- y camau sy'n ymwneud â delio gydag ymholiadau technegol sy'n codi o wyriadau i'r lefelau perfformiad gosodedig o ran prosesau unedau
- pwrpas trywyddion archwilio data, pam eu bod yn bwysig a sut i'w cynnal
- pwysigrwydd sicrhau bod gwybodaeth cynnal a chadw yn gywir, yn ddilys ac yn gyflawn
- gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer cofnodi, adalw, nodi a storio gwybodaeth yn y fformat dynodedig
- yr angen am wybodaeth sy'n cael ei rhoi i bobl eraill ynglŷn â gweithgareddau cynnal a chadw
- sut i weithredu prosesau trin pan fo gwall yn y system gyfrifiadurol yn methu
- protocolau a pholisïau ar gyfer cyfrinachedd, seiberddiogelwch a diogelwch safle a pham eu bod yn bwysig
- effaith newidiadau yn y dalgylch neu’r rhwydwaith dosbarthu ar weithrediadau’r broses drin