Asesu oedran, natur a nodweddion adeiladau hŷn a thraddodiadol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag asesu oedran, natur a nodweddion adeiladau hŷn a thraddodiadol.
Mae'n nodi'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnoch chi i asesu eu gwerthoedd a'u harwyddocâd treftadaeth, eu hadeiladwaith, eu cyflwr, a'u perfformiad gwresogi ac awyru, a goblygiadau'r rhain ar gyfer cyflwyno camau effeithlonrwydd ynni.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y sector ôl-osod sydd â chyfrifoldeb am asesu adeiladau hŷn a thraddodiadol er mwyn gosod camau effeithlonrwydd ynni.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1. sefydlu oedran adeiladau a goblygiadau ar gyfer cyflwyno camau effeithlonrwydd ynni
P2. asesu gwerthoedd treftadaeth ac arwyddocâd adeiladau hŷn a thraddodiadol
P3. cymhwyso egwyddorion cadwraeth i adeiladau hŷn a thraddodiadol
P4. asesu sut mae adeiladau hŷn a thraddodiadol yn cael eu hadeiladu, eu perfformiad a'r deunyddiau a ddefnyddir
P5. asesu'r mathau o systemau gwresogi ac awyru mewn adeiladau hŷn a thraddodiadol a goblygiadau’r rhain ar gyflwyno camau effeithlonrwydd ynni
P6. nodi problemau a diffygion cyffredin mewn adeiladau, ac asesu eu goblygiadau ar gyfer camau effeithlonrwydd ynni
P7. asesu pryd mae angen dadansoddiad neu ymchwiliad pellach a chyfeirio at arbenigwr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
P1 OEDRAN ADEILAD A'R GOBLYGIADAU
K1. ffynonellau gwybodaeth i helpu i sefydlu oedran adeiladau hŷn a thraddodiadol gan gynnwys:
- yr adeilad
- perchennog/meddiannydd
- cynlluniau a dogfennau adeiladu
- mapiau hanesyddol
- cofnodion amgylchedd hanesyddol a chofnodion adeiladau rhestredig
- gwerthusiadau o ardaloedd cadwraeth
K2. arddulliau a nodweddion pensaernïol adeiladau o'r cyfnodau canlynol:
- Canoloesol
- Cyn-Sioraidd
- Sioraidd
- Fictoraidd
- Edwardaidd
K3. sut y gellir cyfrifo gwerthoedd-U ar gyfer elfennau adeiladu a pham y gall oedran rhannau o’r adeilad effeithio ar y gwerthoedd-U diofyn a ddefnyddir mewn methodolegau modelu ynni craidd
K4. perthnasedd oedran adeiladau mewn perthynas â'r gwahaniaeth mewn nodweddion perfformiad rhwng deunyddiau a dulliau adeiladu traddodiadol a modern
P2 GWERTHOEDD AC ARWYDDOCÂD TREFTADAETH
K5. sut mae'r gwerthoedd treftadaeth canlynol yn cael eu defnyddio i asesu a disgrifio arwyddocâd adeiladau:
- tystiolaethol
- hanesyddol
- esthetig
- cymunedol
K6. pam a sut mae datganiadau o arwyddocâd ac asesiadau o effaith ar dreftadaeth yn cael eu paratoi a'u defnyddio
K7. ystod y ddeddfwriaeth gyfredol a ffynonellau canllawiau swyddogol sy'n berthnasol i dreftadaeth adeiledig sy'n ymwneud ag:
- adeiladau rhestredig
- henebion cofrestredig
- ardaloedd cadwraeth a gorchmynion cadw coed
- cyfarwyddiadau sy'n tynnu’n ôl hawliau datblygu a ganiateir
- eithriadau sy'n ymwneud ag adeiladau eglwysig
- rhestri lleol
K8. angenrheidrwydd a chyd-destun cymhwyso dull adeilad cyfan
K9. y ffactorau allweddol i'w hystyried wrth fabwysiadu dull adeilad cyfan o osod camau effeithlonrwydd ynni gan gynnwys:
- gofynion y meddiannydd neu'r perchennog, ymddygiadau a lles, adnoddau ariannol a dynol
- cyd-destun lleol, gan gynnwys lleoliad, cyfeiriadedd, uchder, amlygiad, mynediad, cynllunio a chyfyngiadau’r safle
- amlygiad i beryglon naturiol presennol a rhai yn y dyfodol, gan gynnwys digwyddiadau tywydd eithafol, glaw a yrrir gan wynt, llifogydd a gorboethi
- amlygiad i ddeunyddiau niweidiol fel asbestos a radon
- risg a chost gynyddol canlyniadau anfwriadol
- defnydd o adeiladau a phatrymau meddiannaeth
- ffabrig adeiladu ac adweithiau posibl rhwng deunyddiau
- cyflwr yr adeilad a pherfformiad hygrothermol
- effeithiau lleithder, gwlybaniaeth a dŵr
- gwerthoedd a phwysigrwydd treftadaeth
- gwasanaethau adeiladu, gan gynnwys dealltwriaeth defnyddwyr o reolaethau
- camau effeithlonrwydd ynni presennol ac addasiadau i’r newid yn yr hinsawdd
- opsiynau lleol ar gyfer cyflenwi gwres ac ynni
- y cyd-destun ehangach a chyfleoedd i wneud gwelliannau mewn meysydd amgylcheddol, diwylliannol, cymunedol ac economaidd ymhlith rhai eraill
K10. rhesymau dros fabwysiadu dull adeilad cyfan o osod camau effeithlonrwydd ynni gan gynnwys gwneud yn siŵr bod camau:
- yn benodol i adeiladau – nid oes ‘un dull sy’n addas i bawb'
- yn addas a chymesur
- wedi'u cynllunio ac yn cynnwys sawl cam
- wedi'u hintegreiddio'n dda, yn cael eu cydlynu'n briodol a'u gosod yn y drefn gywir
- yn effeithiol a chynaliadwy
- yn cael eu pennu pan ddaw ansicrwydd i’w amlwg a'u datrys
- wedi'u cynllunio i reoli risgiau canlyniadau anfwriadol
P3 CYMHWYSO EGWYDDORION CADWRAETH
K11. yr egwyddorion cadwraeth canlynol:
- dilysrwydd
- uniondeb
- cynnal a chadw
- atgyweirio tebyg am debyg
- cyn lleied o ymyrraeth â phosibl
- adfer
- i ba raddau y gellir ei ail-drin
- a oedd modd ei wrthdroi
K12. sut mae egwyddorion cadwraeth yn cael eu cymhwyso i adeiladau hŷn a thraddodiadol mewn perthynas â chyflwyno camau effeithlonrwydd ynni
P4 ADEILADU A DEUNYDDIAU
K13. y mathau o waith adeiladu ar adeiladau hŷn a thraddodiadol, y deunyddiau a ddefnyddir a sut maen nhw'n wahanol i adeiladu a deunyddiau modern
K14. sut i nodi amrywiadau lleol a rhanbarthol o adeiladau a deunyddiau traddodiadol
K15. sut mae perfformiad adeiladau a adeiladwyd yn draddodiadol yn wahanol i adeiladau modern yn enwedig mewn perthynas â:
- màs thermol
- mecanweithiau cludo lleithder: trylediad, darfudiad, sugno capilar a disgyrchiant, a sut mae'r rhain yn effeithio ar berfformiad hygrothermol
- priodweddau deunydd perthnasol megis hygrosgopigedd ac athreiddedd anwedd
- gallu deunyddiau i glustogi lleithder a thymheredd
- cyddwysiad a gwlithbwynt
- pwysedd anwedd
- gwlybaniaeth absoliwt a chymharol
- awyru a symudiad aer
K16. effaith y lleoliad daearyddol, yr hinsawdd, wynebwedd, cyfeiriadedd ac amlygiad mannau uwch unigol ar y ffordd y mae adeiladau hŷn a thraddodiadol yn perfformio
K17. rhyngweithiad deunyddiau traddodiadol a modern a chanlyniadau defnyddio camau effeithlonrwydd ynni anghydnaws a rhai sydd wedi'u cynllunio'n wael gan gyfeirio’n benodol at y canlynol:
- màs thermol
- pontio thermol
- symudiad lleithder
- tyndra aer y ffabrig
- awyru a symudiad aer
- ansawdd aer dan do (IAQ) ac ansawdd amgylcheddol dan do (IEQ)
- newid hinsawdd a gallu adeiladau a'u meddianwyr i reoli peryglon naturiol gan gynnwys digwyddiadau tywydd eithafol, glaw a yrrir gan wynt, llifogydd a gorboethi
- gwerth a phwysigrwydd treftadaeth
P5 GWRESOGI AC AWYRU
K18. mathau a chyflwr systemau gwresogi dŵr a gofod a goblygiadau’r rhain ar gyflwyno camau effeithlonrwydd ynni gan gynnwys:
- effeithiau dŵr caled a dŵr meddal
- systemau gwresogi nwy
- systemau olew
- systemau micro-adnewyddadwy
- systemau trydanol
- tanwydd solet
- systemau hybrid
- gwres a phŵer cyfun (CHP)
- systemau gwresogi ardal
K19. mathau a chyflwr awyru rheoledig a goblygiadau’r rhain ar gyflwyno camau effeithlonrwydd ynni gan gynnwys:
- fentiau cefndir a diferion
- awyru echdynnu mecanyddol canolog a datganoledig (MEV) ac awyru mecanyddol gan adfer gwres (MVHR)
- awyru pentwr goddefol
- agoriadau parhaol a griliau awyru
- awyru puro
- awyru mewnbwn positif
K20. ffynonellau treiddiad aer heb ei reoli a goblygiadau’r rhain ar gyflwyno camau effeithlonrwydd ynni
K21. y ffordd o sefydlu a mesur lefel tyndra aer adeiladau hŷn neu draddodiadol gan gynnwys profion mwg, profion drysau chwythwr a thermograffeg is-goch
P6 DIFFYGION ADEILADU
K22. sut i adnabod y problemau a'r diffygion adeiladu cyffredin, a'u hachosion gan gynnwys:
- lleithder, gan gynnwys glaw a yrrir gan wynt, lleithder sy'n codi ac yn treiddio, anwedd lleithder mewnol, systemau draenio annigonol neu wedi'u difrodi, lefelau tir allanol uchel
- effaith lleithder ar wrthiant thermol ffabrig adeiladu, yn enwedig waliau allanol
- yr amser sydd ei angen i ganiatáu i waliau sychu ar ôl atgyweiriadau
- awyru annigonol neu ddiffygiol
- diffygion strwythurol a symudiad strwythurol
- cyflwr ffabrig yr adeilad allanol
- diffygion mewn perthynas â chamau effeithlonrwydd ynni presennol
- problemau waliau ceudod, gan gynnwys waliau ceudod cynnar, ceudodau wedi'u blocio, methiant clymu wal, ceudodau anodd eu trin
- asbestos, radon a deunyddiau niweidiol eraill
- newidiadau neu estyniadau i'r adeilad, eu deunyddiau neu eu gorffeniadau
K23. goblygiadau problemau a diffygion adeiladu cyffredin ar gyfer cyflwyno camau effeithlonrwydd ynni
K24. sut mae deunyddiau adeiladu yn diraddio ac yn dirywio dros amser gan gyfeirio’n benodol at:
- ddiffygion deunydd cynhenid
- prosesau ffisegol, gan gynnwys crebachu, ehangu, erydu
- prosesau cemegol, gan gynnwys cyrydiad, crisialu halen
- ymosodiad ffwngaidd a haint pryfed
- gorlwytho
K25. sut mae newidiadau i'r adeiladwaith gwreiddiol yn effeithio ar berfformiad adeiladau gan gyfeirio’n benodol at berfformiad thermol, perfformiad hygrothermol, gorboethi a chysur thermol
P7. DADANSODDIAD NEU YMCHWILIAD ARBENIGOL
K26. pan nad oes digon o wybodaeth neu dystiolaeth i wneud argymhellion ar gyflwyno camau effeithlonrwydd ynni i adeiladau hŷn neu draddodiadol
K27. yr ystod o arbenigwyr a allai fod eu hangen wrth ystyried cyflwyno camau effeithlonrwydd ynni i adeiladau hŷn a thraddodiadol gan gynnwys:
- ymgynghorydd tân
- ymgynghorydd treftadaeth
- swyddog cynllunio awdurdod lleol neu swyddog cadwraeth treftadaeth adeiledig
- syrfëwr adeiladu
- peiriannydd strwythurol
- ymgynghorydd annibynnol ar leithder a phren
- ymgynghorydd gwasanaethau adeiladu
- cadwraethwr
- archaeolegwyr
- ecolegydd
K28. y mathau o ddadansoddiad ac ymchwiliad pellach sydd ar gael gan gynnwys:
- asesiad tân
- asesiad o arwyddocâd ac asesiad o effaith ar dreftadaeth
- arolwg o gyflwr adeiladau
- ymchwiliad twll clo
- agor
- profi, monitro a synhwyro o bell, gan gynnwys profi tyndra aer, thermograffeg is-goch a monitro gwerth-U in situ
- gwerthusiad rheoli lleithder
- asesiad risg lleithder
- asesiad gwasanaethau adeiladu
- ymchwiliad archaeolegol
- asesiad ecolegol
- asesiad gorboethi
K29. pryd a sut i gyfeirio at arbenigwyr
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Asesiad o Effaith ar Dreftadaeth
Proses strwythuredig i wneud yn siŵr bod arwyddocâd yr adeilad hanesyddol yn cael ei ystyried wrth ddatblygu a dylunio cynigion ar gyfer newid. Mae'n rhan graidd o'r broses ddylunio, sy'n profi a yw'r newidiadau arfaethedig yn briodol drwy asesu eu heffaith ar arwyddocâd yr adeilad.
Arwyddocâd
Swm y pedwar cydran gwerth treftadaeth ddiwylliannol (tystiolaethol, hanesyddol, esthetig a chymunedol), a nodir yn aml mewn Datganiad o Arwyddocâd.
Adeiladu traddodiadol
Adeilad gyda waliau allanol brics solet, carreg neu bridd, wedi'u hadeiladu gyda deunyddiau sy'n athraidd i leithder ac fel arfer wedi'u hadeiladu cyn 1919, neu waliau allanol ffrâm bren cyn 1919 gydag unrhyw fewnlenwi.