Paratoi, diffodd a datgymalu offer chwistrellu dŵr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod, paratoi, diffodd a datgymalu offer chwistrellu dŵr, dewis, paratoi a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar cysylltiedig, dehongli gwybodaeth, a mabwysiadu arferion gweithio diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol.
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol Chwistrellu Dŵr. Gall gweithredwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddwyd am y gwaith a'r adnoddau er mwyn cadarnhau pa mor berthnasol yw
P2 cydymffurfio â’r canllawiau swyddogol a’r ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfer cyflawni'r gwaith a dilyn arferion gweithio diogel ac iach
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y dulliau gweithio ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol er mwyn lleihau'r perygl o ddifrod i'r gwaith a'r ardal gyfagos
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddwyd yn y contract er mwyn cyflawni'r gwaith yn effeithlon ac yn unol â manyleb y gwaith
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd ar ei gyfer, yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
G1 y gweithdrefnau a luniwyd gan y sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas a’u cywiro, a sut y mae'r rhain yn cael eu defnyddio
G2 y mathau o wybodaeth, eu ffynhonnell a sut maent yn cael eu dehongli
G3 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau gyda'r wybodaeth a pham ei bod yn bwysig dilyn y gweithdrefnau hynny
Meini Prawf Perfformiad 2
Arferion gweithio diogel
G4 lefel y ddealltwriaeth y mae angen i weithredwyr ei chael o wybodaeth am ddeddfwriaeth a chanllawiau swyddogol cyfredol perthnasol a sut mae eu defnyddio
G5 y mathau o ddiffoddwyr tân sy’n bodoli a sut a pha bryd mae defnyddio'r rhain
G6 sut mae ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb iddynt
G7 gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer ac eiddo personol
G8 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud yr adroddiad
G9 pam, pryd a sut mae defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
G10 sut mae cydymffurfio ag arferion gweithio sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol cyfredol
Meini Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau
G11 nodweddion, ansawdd, ffyrdd o ddefnyddio, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a sut mae cywiro diffygion
G12 sut mae defnyddio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau
G13 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu llunio a sut mae eu defnyddio
G14 y peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut mae goresgyn y rhain
Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau’r perygl o ddifrod
G15 sut mae diogelu gwaith rhag difrod a diben diogelu
G16 pam y dylid cael gwared â gwastraff mewn ffordd ddiogel a sut mae gwneud hyn
Meini Prawf Perfformiad 5
Bodloni manyleb y contract
G17 sut mae dulliau gweithio, er mwyn bodloni'r fanyleb, yn cael eu defnyddio a sut mae rhoi gwybod am broblemau
G18 sut mae mynd ati i gynnal a chadw offer
Meini Prawf Perfformiad 6
Amser a neilltuwyd
G19 beth yw'r rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd a pham y dylid cadw at y terfynau amser a bennwyd
Cwmpas/ystod
Meini Prawf Perfformiad 1
1. dehongli lluniadau, manylebau, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau o risg, deddfwriaeth gyfredol, Codau Ymarfer, cyfarwyddiadau gweithredu a gwybodaeth y gwneuthurwyr sy'n berthnasol i'r gwaith sydd i'w wneud
Meini Prawf Perfformiad 2
2. osgoi risg drwy gydymffurfio â’r wybodaeth a roddwyd am y canlynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnyddio offer rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 gosod a chynnal mesurau diogelwch ar gyfer yr ardal waith
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
Meini Prawf Perfformiad 3
3. dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â’i waith ei hun
3.1 deunyddiau
3.2 offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 4
4. diogelu’r gwaith a'r ardal gyfagos rhag difrod
5. cadw'r man gwaith yn daclus ac yn glir
6. cael gwared â gwastraff yn unol â deddfwriaeth gyfredol
Meini Prawf Perfformiad 5
7. dangos sgiliau gwaith o ran gosod, lleoli, diogelu, cysylltu ac addasu
8. defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pweredig cludadwy a chyfarpar ategol
9. cynnal archwiliadau cyn dechrau a pharatoi offer chwistrellu dŵr yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddwyd o ran
9.1 lleoli’r offer
9.2 cysylltu pibelli, tiwbiau chwistrellu, chwistrellau ac offer diogelwch
9.3 cyflenwad pŵer
9.4 cyflenwad dŵr
10. dangos sgiliau gwaith o ran dechrau, stopio a rheoli
11. gweithredu a monitro offer chwistrellu dŵr yn unol â chyfarwyddiadau gweithredu yng nghyswllt
11.1 profion
11.2 diffodd
11.3 glanhau
12. ar ôl cwblhau'r gwaith, datgymalu’r offer a’i ddihalogi a gwneud yr ardal waith yn ddiogel
Meini Prawf Perfformiad 6
13. cwblhau ei waith ei hun o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd er mwyn diwallu anghenion cleientiaid neu/a galwedigaethau eraill
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwaredu gwastraff
1. cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau sefydliadol, gwybodaeth gwneuthurwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Argyfyngau
2. ymateb gweithredwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol wrth ymdrin â
2.1 thanau, gollyngiadau, anafiadau
2.2 argyfyngau perthnasol i weithgareddau galwedigaethol
Diffoddwyr tân
3. dŵr, C02, ewyn, powdr a phryd y dylid eu defnyddio
Peryglon
4. y rheini sy’n cael eu canfod drwy asesiad o risg, dulliau gweithio, gwybodaeth dechnegol y gwneuthurwr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Offer rheoli iechyd a diogelwch
5. fel y nodir yn yr egwyddorion atal at ddefnydd galwedigaethol, mathau a phwrpas pob math o offer, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol
5.1 mesurau diogelu cyfunol
5.2 cyfarpar diogelu personol
5.3 cyfarpar diogelu anadlol
5.4 systemau awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth
Gwybodaeth
6. lluniadau, manylebau, deddfwriaeth gyfredol, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau o risg, Codau Ymarfer, cyfarwyddiadau gweithredu a gwybodaeth y gwneuthurwyr a chanllawiau swyddogol
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
7. mae'r rhain yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithredwr yng nghyswllt damweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, ar lefel is na'r llawr daear, mewn mannau cyfyng, ar uchder, gydag offer a chyfarpar, gyda deunyddiau a sylweddau, wrth symud a storio deunyddiau drwy godi a chario ac wrth ddefnyddio offer a pheiriannau codi
Cynnal a chadw
8. cyfrifoldebau'r gweithredwr o ran gofalu am offer llaw, cyfarpar ac offer pweredig cludadwy
Dulliau gweithio
9. defnyddio gwybodaeth er mwyn sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gweithio diogel ac iach yng nghyswllt y dull gweithio a'r ardal waith a'r deunyddiau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer y canlynol:
9.1 cynnal archwiliadau cyn dechrau, gosod offer a’i gau i lawr
9.2 gweithredu offer
9.3 monitro ac asesu perfformiad y pwmp, pibelli, tiwbiau, chwistrellau, trwynau pibelli a falfiau rheoli
9.4 datgymalu offer
9.5 darparu gwybodaeth ar gyfer Modelu Gwybodaeth am Adeiladau
9.6 gweld pan fo angen gwybodaeth a sgiliau arbenigol a phennu’r rheini ac adrodd yn unol â hynny
9.7 pennu gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladau traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol
9.8 nodi a dilyn y gofynion o ran ansawdd y gosod
9.9 gweithio gyda, yng nghyffiniau ac yn agos at offer a pheiriannau
9.10 cyfarwyddo ac arwain y gwaith o weithredu a symud offer a pheiriannau
9.11 defnyddio offer llaw, offer pweredig cludadwy, offer chwistrellu dŵr: systemau awtomatig neu led-awtomatig, ac offer ategol
9.12 gweithio ar uchder
9.13 defnyddio offer mynediad
10. gwaith tîm a chyfathrebu
11. anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â pharatoi, diffodd a datgymalu offer chwistrellu dŵr
Problemau
12. y rheini sy’n codi yn sgil gwybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.1 ei awdurdod ei hun o ran cywiro
12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
Rhaglen
13. mathau o adroddiadau ar gynnydd, amserlenni ac amcangyfrif o amseroedd
14. gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
Diogelu gwaith
15. diogelu gwaith rhag difrod yn sgil gweithgareddau cyffredinol y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd gwael
Adnoddau
16. deunyddiau, cydrannau ac offer sy’n berthnasol i fathau, nifer, ansawdd, maint a chynaliadwyedd adnoddau safonol a/neu arbenigol
16.1 dŵr, deunyddiau sgrafellog, cemegion
16.2 tanwydd, ireidiau, oeryddion
16.3 pympiau, pibelli, tiwbiau, chwistrellau, trwynau pibelli, falfiau rheoli ac offer diogelwch
16.4 offer llaw, offer pweredig cludadwy, offer chwistrellu dŵr: systemau awtomatig neu led-awtomatig, ac offer ategol
17. cadarnhau bod adnoddau a deunyddiau yn cydymffurfio â'r fanyleb
18. dulliau o gyfrifo maint, hyd, arwynebedd, gostyngiad yn y pwysedd, ôl-bwysedd, grym adweithio a faint o ddeunyddiau sy'n cael eu gwastraffu o safbwynt y dull a’r weithdrefn o baratoi, diffodd a datgymalu offer chwistrellu dŵr
Gweithdrefnau diogelwch
19 safle, gweithle, cwmni, gweithredwyr a cherbydau