Gweithio gyda pheiriannau i godi a throsglwyddo llwythi

URN: COSVR387
Sectorau Busnes (Cyfresi): Galwedigaethau Gosodiadau Arbenigol (Adeiladu), Ffensio, Dymchwel, Galwedigaethau Cladio (Adeiladu), Gweithrediadau Pyst Sylfaen (Adeiladu), Gosod Peiriannau (Adeiladu), Gweithrediadau Peiriannau (Adeiladu), Galwedigaethau Gwaith Isadeiledd (Adeiladu), Gweithrediadau Logisteg Safleoedd (Adeiladu), Gwaith Coedwig
Datblygwyd gan: Construction Skills
Wedi'i gymeradwyo: 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau a chyfarpar i osod, gweithredu a diffodd offer neu beiriannau ar gyfer codi neu drosglwyddo llwythi

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio'n annibynnol i weithredu offer neu beiriannau sy'n codi ac yn trosglwyddo llwythi, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1  dehongli'r wybodaeth a roddir am ddefnyddio peiriannau a       chadarnhau ei pherthnasedd P2  trefnu gydag eraill ym mha drefn y dylid gwneud y gwaith P3  cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol,        dogfennau statws cyfreithiol arbennig, canllawiau swyddogol       a gweithdrefnau'r sefydliad i gynnal arferion gwaith diogel       ac iach P4  gofyn am adnoddau i gynnal gweithrediadau peiriannau neu       offer er mwyn cwblhau'r rhaglen waith P5  dewis adnoddau peirianyddol ar gyfer y dulliau gweithio a'r       gweithrediadau i'w cyflawni P6  cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o       ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas P7  cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud       y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion P8  cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r       rhaglen waith

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth 

K1        pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am
            wybodaeth amhriodol ac adn*oddau* anaddas, yn ogystal â'u
            cywiro, a sut i'w gweithredu

K2        pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell
            a sut i'w dehongli

K3        beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau
            â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2
Trefnu gydag eraill 

K4        sut mae aelodau'r tîm yn cyfleu syniadau i'w gilydd

K5        sut mae adnoddau'n cael eu trefnu i gyd-fynd â'r cynnydd
            a wnaed yn y gwaith

K6        pa sgiliau sydd eu hangen i wneud y gwaith

Meini Prawf Perfformiad 3
Arferion gwaith diogel 

K7        faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i
            gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol,
            Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol a sut
            i'w chymhwyso

K8        sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K9        beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer
            peiriannau, offer, cyfarpar ac eiddo personol

K10     beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a
            phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K11      pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a
*            diogelwch*

K12      sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol
            er mwyn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth gyfredol a
            *chanllawiau swyddogol
*

Meini Prawf Perfformiad 4
Gwneud cais am adnoddau 

K13        gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am
              nwyddau traul ac adnoddau eraill

Meini Prawf Perfformiad 5
Dewis adnoddau 
K14        beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd,

              cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro
              diffygion

K15        sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am
              unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K16        beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau,
              pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K17        pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau
              gweithio
a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 6
Lleihau'r risg o ddifrod 

K18        sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K19        pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 7
Bodloni gofynion y contract 

K20        sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut
               i adrodd am broblemau

K21        sut i gynnal a chadw peiriannau, offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 8
Amser a neilltuwyd 

K22       beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser
             amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at 
             derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1

1      dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull,
        cynlluniau codi, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr
        sy'n ymwneud â'r gweithrediadau peirianyddol a'r gwaith sydd i'w
        wneud

Meini Prawf Perfformiad 2

2      trefnu'ch gwaith eich hun

3      cyfleu'r gweithrediadau peirianyddol a'r gwaith sydd i'w wneud
        i aelodau'r tîm a galwedigaethau cysylltiedig eraill

Meini Prawf Perfformiad 3

4      osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am
        ddiogelwch sy'n ymwneud ag o leiaf bedwar o'r canlynol

    4.1 dulliau gweithio

    4.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel

    4.3 defnyddio a storio offer neu beiriannau yn ddiogel

    4.4 defnyddio a storio offer a chyfarpar yn ddiogel

    4.5 risgiau penodol i iechyd

    4.6 defnyddio a storio ategolion codi'n ddiogel

Meini Prawf Perfformiad 4

5      dilyn gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am
        nwyddau traul, deunyddiau ac adnoddau eraill

Meini Prawf Perfformiad 5

6      dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun

    6.1 offer llaw a chyfarpar ategol a/neu ategolion

Meini Prawf Perfformiad 6

7      diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

8      atal difrod a chynnal lle gweithio glân

9      gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol





Meini Prawf Perfformiad 7

10      dangos sgiliau gwirio, addasu, cyfathrebu, gweithredu, symud,
          lleoli, codi, trosglwyddo a rhoi i lawr

11      defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, cyfarpar ategol a/neu
          ategolion

12      gweithredu offer neu beiriannau i godi a throsglwyddo llwythi
          yn unol â chyfarwyddiadau gweithio a roddir mewn perthynas
          ag un o'r categorïau canlynol

    12.1 tryciau codi

    12.2 craeniau

    12.3 craeniau braich gymal (knuckleboom)

    12.4 craeniau cloddio

    12.5 tractor ymlusgo/braich ochr

    12.6 trinwyr sgipiau

    12.7 teclynnau codi

    12.8 trinwyr cynwysyddion

    12.9 trelars â modur sy'n hunan-yrru

13      diffodd a diogelu offer neu beiriannau

Meini Prawf Perfformiad 8

14      cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig
          a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r
          cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Cyfathrebu

1      trafodaethau, brasluniau, data electronig a sesiynau briffio

Gwaredu gwastraff

2      cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad,
        gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a
        chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

3      ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad
       sefydliadol a sgiliau personol

    3.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau

    3.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon

4      y rhai hynny a nodir fel rhan o ddull gweithio, mewn asesiadau
        risg/Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, yng 
        ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn
        rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

5      y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd
        galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, 
        sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol

    5.1 mesurau diogelu ar y cyd

    5.2 system awyru a gwacáu leol

    5.3 cyfarpar diogelu personol

    5.4 cyfarpar diogelu anadlol

Gwybodaeth

6      lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg,
        gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n 
        ymwneud â gweithredu offer neu beiriannau i godi a throsglwyddo
        llwythi

Deddfwriaeth, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol

7      mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am
        ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth
        weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar
        uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth
        symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi 
        mecanyddol

Cynnal a chadw

8     gofal y gweithiwr am offer a pheiriannau, offer llaw, cyfarpar ategol
       ac ategolion

Dulliau gweithio

9      cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau
        gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r 
        deunyddiau a ddefnyddir i

    9.1   adnabod nodweddion yr offer neu'r peiriannau ar gyfer
            gweithrediadau codi a throsglwyddo

    9.2   nodi tystysgrifau dilys ar gyfer cynnal a chadw, arolygu
            ac archwilio'n drylwyr

    9.3    codi a throsglwyddo pobl

    9.4    cynnal gwiriadau swyddogaethol ar gyfer codi a
             throsglwyddo llwythi

    9.5    cynnal archwiliadau cyn gweithredu ar rwystrau,
             sefydlogrwydd, diogelwch a sicrwydd y gwaith a'r ardal
             o'i gwmpas

    9.6    adnabod nodweddion, mathau, pwysau a lleoliad llwythi
             ar gyfer eu codi a'u trosglwyddo

    9.7    nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau
             a gwybodaeth benodol

    9.8    sicrhau a chydbwyso llwythi i'w codi

    9.9    codi, symud a throsglwyddo llwythi

    9.10  lleoli a gosod llwythi a'u rhoi i lawr

    9.11  cadarnhau sefydlogrwydd a diogelwch llwythi a'u rhyddhau

    9.12  atodi a thynnu cymorthyddion a rhaffau canllaw

    9.13  teithio ar briffyrdd cyhoeddus

    9.14  diffodd a diogelu offer a pheiriannau

    9.15  defnyddio offer llaw a chyfarpar ategol

    9.16  defnyddio, trin a storio ategolion codi

10      gwaith tîm a chyfathrebu

11      anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gweithredu
          offer a pheiriannau ar gyfer codi a throsglwyddo llwythi

Problemau

12      y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

    12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

    12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

13     mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd 
         amcangyfrifedig

14     gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a
         fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

15      diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau 
          cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

16      deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd,
          ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac
          arbenigol o

    16.1 deunyddiau traul, ireidiau a thanwyddau

    16.2 atodiadau ac ategolion codi

    16.3 offer llaw, cyfarpar ategol ac ategolion

17      nodi pwysau, cynhaliad, gwasgedd, swm, hyd ac arwynebedd
          sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer gweithredu offer 
          a pheiriannau a ddefnyddir i godi a throsglwyddo llwythi


Gweithdrefnau diogelwch

18     safle, gweithle, cwmni a gweithiwr

Sgiliau

19     eich galwedigaeth eich hun a galwedigaethau sy'n gysylltiedig
        â'r gwaith


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Tryciau codi: (offer a pheiriannau sydd â fforch godi) wagen fforch godi â mast ar gyfer tir garw, wagen fforch godi sy'n llwytho o'r ochr, wagen fforch godi ddiwydiannol, triniwr telesgopig (telesgop diwydiannol, hyd at 9 metr, pob maint ac eithrio troad 360 a phob maint gan gynnwys troad 360), tryc ymestyn

Craeniau: symudol (dyletswyddau wedi blocio, dyletswyddau sefydlog (rhydd ar olwynion), dyletswyddau codi a chario), tŵr sy'n cael ei weithredu ar droed (hyd at 36 metr – 100m/te a jib ar oleddf), cywasgu (dyletswyddau sefydlogwyr statig, diwydiannol symudol, lyffio sefydlog, a chodi a chario 360), ymlusgwr a thŵr (jib troli a jib lyffio)

Craen Braich Gymal

mae'r fraich yn cynnwys 'cymal' neu nifer o gymalau sy'n ei galluogi i blygu'n ôl fel bys, sy'n golygu ei bod yn gallu cywasgu i'w storio a'i symud

Llwythwr lorïau

fel mae'r diffiniad yn ei awgrymu, mae llwythwr lorïau yn gyfuniad o gerbyd cludo llwythi (lori) neu drelar a chraen llwytho, sy'n hwyluso'r broses o lwytho nwyddau ar ac oddi ar gerbyd, yn union fel craen

Teclynnau codi

nwyddau rac a phiniwn, teithwyr a nwyddau wedi'u cyfuno, nwyddau sy'n cael eu gweithio â rhaff, a llwyfan cludo

Ategolion codi

mae ategolion codi yn ddarnau o gyfarpar sy'n cael eu defnyddio i atodi'r llwyth at offer codi, gan ddarparu cyswllt rhwng y ddau; efallai y bydd angen ystyried unrhyw ategolion codi a ddefnyddir rhwng cyfarpar codi a'r llwyth wrth bennu pwysau cyffredinol y llwyth (mae enghreifftiau o ategolion codi yn cynnwys: slingiau rhaff neu ffeibr, cadwyni [un goes neu ragor], bachau, bolltiau llygadog, trawstiau gwasgaru, dyfeisiau magnetig a gwactod)


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

VR387

Galwedigaethau Perthnasol

Gyrru Craeniau; Gyrru Wagenni Fforch Godi

Cod SOC

8221, 8222

Geiriau Allweddol

Tryciau codi; Craeniau braich gymal; Craeniau cloddio; Tractorau ymlusgo/breichiau ochr; Trinwyr sgipiau; Teclynnau codi; Trinwyr cynwysyddion; Trelars â modur sy’n hunan-yrru