Cotio arwynebau drwy ddefnyddio cyfarpar chwistrellu aer LEGACY

URN: COSVR340L
Sectorau Busnes (Cyfresi): Galwedigaethau Gorffen Addurnol a Pheintio Diwydiannol (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Wedi'i gymeradwyo: 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chydosod a gosod cyfarpar chwistrellu aer (systemau cyfaint mawr gwasgedd isel) a'i ddefnyddio i gotio arwynebau, glanhau a chynnal a chadw cyfarpar chwistrellu aer, diogelu'r man gweithio, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol a dewis, paratoi a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar cysylltiedig.

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes Galwedigaethau Gorffen Addurniadol a Phaentio Diwydiannol a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth

K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2

Arferion gwaith diogel

K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso

K5 pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio

K6 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K7 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K8 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K10 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 3

Dewis adnoddau

K11 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K12 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K13 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K14 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 4

Lleihau'r risg o ddifrod

K15 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K16 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5

Bodloni gofynion y contract

K17 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K18 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6

Amser a neilltuwyd

K19 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod

Meini Prawf Perfformiad 1

1 dehongli lluniadau, gofynion, rheoliadau cyfredol, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2

2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol

2.1 dulliau gweithio

2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel

2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel

2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel

2.5 risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3

3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun

3.1 deunyddiau

3.2 offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 4

4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

5 cynnal man gweithio clir a thaclus

6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5

7 dangos sgiliau paratoi, llwytho, diogelu, cyfathrebu, mesur, cydosod, lleoli, sicrhau a glanhau

8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer, cyfarpar chwistrellu aer a chyfarpar ategol

9 gosod ac addasu cyfarpar chwistrellu aer drwy wneud y canlynol i sicrhau'r gorffeniad a nodir yn y cyfarwyddiadau gweithio a roddir

9.1 paratoi deunyddiau cotio

9.2 llwytho'r system

9.3 monitro a chynnal y cyflenwad

10 cotio'r arwynebau dilynol â deunyddiau cotio a gludir gan ddŵr a/neu ddeunyddiau cotio a gludir gan hydoddydd drwy ddefnyddio cyfarpar chwistrellu aer yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir

10.1 waliau llydan

10.2 gwaith llinellog a strwythurol

11 mesur trwch cotiau gwlyb (fel y nodir)

12 diffodd y cyfarpar chwistrellu a'i lanhau

13 gweithredu gweithdrefnau diffodd

13.1 diffodd y cyfarpar chwistrellu am gyfnod dros dro

13.2 diffodd, glanhau a chynnal a chadw'r cyfarpar chwistrellu ar ôl gwneud y gwaith

Meini Prawf Perfformiad 6

14 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff

1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol

2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau

2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol (gan gynnwys anafiadau chwistrellu aer a hylif)

Diffoddwyr tân

3 dŵr, CO2, ewyn a phowdr

Peryglon

4 y rhai hynny a nodir drwy asesiadau risg, mewn datganiadau dull, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol

5.1 mesurau diogelu ar y cyd

5.2 cyfarpar diogelu personol

5.3 cyfarpar diogelu anadlol

5.4 system awyru a gwacáu leol

Gwybodaeth

6 lluniadau, gofynion, deddfwriaeth gyfredol, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, canllawiau swyddogol a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud ag adeiladau ac yn gysylltiedig â gofynion galwedigaethol

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd, pobl a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw

8 gofal y gweithiwr am y cyfarpar chwistrellu, offer llaw cysylltiedig, offer pŵer a chyfarpar ategol

Dulliau gweithio

9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

9.1 cadarnhau gofynion mynediad

9.2 sicrhau bod arwynebau wedi'u haddurno neu eu paratoi'n flaenorol yn addas

9.3 diogelu'r man gweithio drwy ddefnyddio gorchuddion a deunyddiau masgio a symud eitemau

9.4 dewis a chydosod cydrannau'r cyfarpar chwistrellu

9.5 paratoi deunyddiau cotio a chotio arwynebau â nhw (systemau un pecyn a dau becyn)

9.6 llwytho, gweithredu, cynnal (tra bydd yn cael ei ddefnyddio) a monitro'r cyfarpar chwistrellu

9.7 cadarnhau gofynion newid aer mewn mannau cyfyng

9.8 cydosod, gosod, gweithredu a diffodd y cyfarpar chwistrellu

9.9 defnyddio'r gwn chwistrellu'n gywir wrth gotio waliau llydan, onglau, gwaith llinellog a nodweddion strwythurol cymhleth

9.10 trefnu bod gweithwyr a'r cyhoedd wedi'u diogelu rhag gweithrediadau chwistrellu

9.11 nodi a rhoi gwybod am broblemau â'r cyfarpar chwistrellu

9.12 nodi a datrys problemau wrth ddefnyddio'r cyfarpar chwistrellu

9.13 defnyddio mesurydd i fesur trwch cotiau gwlyb

9.14 diffodd, glanhau, cynnal a chadw a storio cyfarpar

9.15 nodi sut mae amodau atmosfferig yn effeithio ar ddeunyddiau cotio a'u defnydd

9.16 nodi oes waith deunyddiau a baratowyd

9.17 rhoi gwybodaeth ar gyfer modelu gwybodaeth am adeiladu

9.18 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol

9.19 nodi a dilyn cyfarwyddiadau gweithgynhyrchwyr

9.20 gweithio o gwmpas peiriannau ac yn agos iawn atynt

9.21 cyfarwyddo ac arwain peiriannau wrth iddynt symud a chael eu gweithredu

9.22 gweithio ar uchder

9.23 archwilio a defnyddio cyfarpar mynediad

9.24 defnyddio offer llaw a chyfarpar ategol

10 gwaith tîm a chyfathrebu

11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â chotio arwynebau drwy ddefnyddio cyfarpar chwistrellu aer

Problemau

12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

13 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig

14 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill, y cyhoedd a thywydd garw

Adnoddau

16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu

arbenigol o

16.1 deunyddiau cotio a gludir gan ddŵr a deunyddiau cotio a gludir gan hydoddydd

16.2 deunyddiau masgio (tâp masgio, papur masgio a gorchuddion)

16.3 deunyddiau cotio dau becyn (seiliau, actifadyddion a hydoddyddion)

16.4 gorchuddion diogelu

16.5 cyfarpar mynediad

16.6 offer llaw, mesuryddion trwch cotiau gwlyb, cyfarpar chwistrellu aer a chyfarpar ategol

17 dulliau o gyfrifo faint o ddeunyddiau sydd eu hangen, gan gynnwys faint o ddeunyddiau a fydd yn cael eu gwastraffu, mewn cysylltiad â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer cotio arwynebau drwy ddefnyddio cyfarpar chwistrellu aer

18 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion

Gweithdrefnau diogelwch

19 safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Etifeddiaeth

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ConstructionSkills [SgiliauAdeiladu]

URN gwreiddiol

VR340

Galwedigaethau Perthnasol

Paentio ac Addurno

Cod SOC

5323

Geiriau Allweddol

Gwn chwistrellu; Chwistrellu; A gludir gan ddŵr; A gludir gan hydoddydd; Paentio; Gwlyb a sych; Trwch cotiau; Waliau llydan; Cyfaint mawr gwasgedd isel