Polisi Preifatrwydd
Ydy'r wefan hon yn casglu fy nata personol?
Yn gyntaf, i gael gwybodaeth am ba cwcis mae'r wefan hon yn ei chasglu, darllenwch y Polisi Cwcis ar wahân.
Mae'r wefan hon ond yn casglu ac yn defnyddio data personol o dan amgylchiadau cyfyngedig iawn, a hynny bob amser yn digwydd dim ond pan fyddwch chi wedi dewis eu darparu.
Pam mae fy nata personol yn cael eu casglu?
Os ydych chi'n cynrychioli sefydliad sy'n gwneud gwaith datblygu drwy'r wefan hon, efallai y byddwch chi wedi rhoi eich enw a'ch cyfeiriad e-bost i ni. Bydd y data hynny yn caniatáu i 'fewngofnod' gael ei gynhyrchu ar eich cyfer, a bydd yn caniatáu i chi gael mynediad i adran Weinyddu (Admin) ddiogel y basdata SGC. Bydd hwn hefyd yn cael ei ddefnyddio i olrhain pwy sy'n mewnbynnu'r wybodaeth a bydd hefyd yn hysbysu'r defnyddiwr o'r diweddariadau sydd eu hangen fel rhan o broses ddatblygu'r SGC.
Yn ogystal, os ydych wedi cyfrannu at ymgynghoriad drwy'r wefan, gall defnyddwyr cofrestredig eraill weld y data personol a gofnodwyd gennych drwy'r broses hon mewn adran ddiogel o'r wefan. Mae hyn yn ofynnol fel tystiolaeth bod ymgynghori wedi digwydd.
Ble mae'r data personol yn cael eu storio?
Caiff eich data personol eu storio mewn gweinydd diogel a dim ond cymeradwywyr a gweinyddwyr y basdata all gael mynediad atynt. Caiff y data yma eu cadw ar weinydd yn y DU a dim ond cynrychiolwyr dethol o SDS, SQA Accreditation, Llywodraeth Cymru, y Cyngor Cwricwlwm, Arholiadau ac Asesu yng Ngogledd Iwerddon (CCEA) a ActiveIS fydd yn gallu cael golwg ar y wybodaeth. Bydd hynny at ddibenion cefnogi prosesau datblygu a chymeradwyo cynhyrchion SGC.
Gyda phwy byddan nhw'n eu rhannu?
Dim ond gyda staff o Lywodraeth Cymru, y Cyngor Cwricwlwm, Arholiadau ac Asesu yng Ngogledd Iwerddon (CCEA), Skills Development Scotland (SDS), ac Awdurdod Cymwysterau yr Alban (SQA) y bydd eich data yn cael eu rhannu.
Beth yw fy hawliau mewn pethynas â'm data personol?
Os ydych yn dymuno tynnu eich data personol o'r system hon, neu os ydych yn dymuno cael gwybod rhagor ynghylch sut rydym yn eu defnyddio neu eu storio (yn rhad ac am ddim), gellwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data SDS ar DPO@sds.co.uk
SDS yw'r Rheolydd Data ar gyfer unrhyw ddata personol a gesglir ar y wefan hon.