Rheoli effaith amgylcheddol eich gwaith
Trosolwg
Mae’r uned hon yn ymwneud â rheoli gweithgareddau ac adnoddau gwaith yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano er mwyn lleihau’r effaith negyddol a gwneud y mwyaf o’r effaith gadarnhaol y gallent ei chael ar yr amgylchedd. Mae’r safon hon ar gyfer arweinwyr tîm, rheolwr llinell gyntaf neu oruchwylwyr lletygarwch.
Yn unigol, gallai unrhyw fusnes lletygarwch gael effaith negyddol sylweddol ar yr amgylchedd. Ar y cyd, ar draws y diwydiant cyfan, gall y gost fod yn enfawr.
Tair agwedd allweddol ar effaith amgylcheddol yw ynni, dŵr, a gwastraff. Mae disgwyl i oruchwylwyr a rheolwyr chwarae rhan flaenllaw wrth helpu i leihau’r effaith negyddol ar yr amgylchedd trwy reoli gweithgareddau ac adnoddau yn effeithlon. Mae’r safon hon yn esbonio rhagor am bwysigrwydd trefnu gweithgareddau ac adnoddau gwaith mewn ffordd sy’n cyflawni’r nod hwn.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Reoli effaith amgylcheddol eich gwaith
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Trefnu gweithgareddau gwaith a defnyddio adnoddau yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano fel eu bod yn effeithlon ac yn effeithiol, yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a pholisïau amgylcheddol perthnasol, ac yn lleihau’r effaith negyddol ac yn gwneud y mwyaf o’r effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd
- Nodi effaith amgylcheddol gweithgareddau gwaith a’r defnydd o adnoddau yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano
- Rhoi gwybod yn brydlon am unrhyw risgiau a nodwyd i’r amgylchedd, nad ydych yn gallu eu rheoli
- Annog pobl yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano i nodi cyfleoedd i wella perfformiad amgylcheddol, a chyfrannu ato
- Nodi a gweithredu newidiadau i weithgareddau gwaith a’r defnydd o adnoddau a fydd yn lleihau’r effaith negyddol ac yn cynyddu’r effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd
- Cyfleu’r buddion amgylcheddol sy’n deillio o newidiadau i weithgareddau gwaith a’r defnydd o adnoddau
- Cael cyngor arbenigol, lle bo angen, i’ch helpu i nodi a rheoli effaith amgylcheddol eich gweithgareddau gwaith a’ch defnydd o adnoddau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i drefnu gweithgareddau gwaith a’r defnydd o adnoddau yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano fel eu bod yn effeithlon ac yn effeithiol
- Pwysigrwydd trefnu gweithgareddau gwaith a’r defnydd o adnoddau, fel eu bod yn lleihau eu heffaith negyddol ac yn gwneud y mwyaf o’u heffaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, a sut i wneud hynny
- Pwysigrwydd nodi effaith amgylcheddol gweithgareddau gwaith a’r defnydd o adnoddau yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano, a sut i wneud hynny
- Pwysigrwydd rhoi gwybod yn brydlon am unrhyw risgiau a nodwyd i’r amgylchedd, nad ydych yn gallu eu rheoli, a sut i wneud hynny
- Sut i annog pobl i wneud cyfraniadau
- Sut i nodi a gweithredu newidiadau i weithgareddau gwaith a’r defnydd o adnoddau a fydd yn lleihau eu heffaith negyddol ac yn cynyddu eu heffaith gadarnhaol ar yr amgylchedd
- Egwyddorion cyfathrebu effeithiol a sut i’w cymhwyso
- Gofynion y diwydiant / sector am reoli perfformiad amgylcheddol yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano
- Gofynion cyfreithiol a pholisïau amgylcheddol perthnasol a sut i gydymffurfio â’r rhain
- Y mathau o risgiau i’r amgylchedd nad yw’r gallu gennych i’w rheoli
- Pobl yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano, sy’n gallu cyfrannu at gyfleoedd i wella perfformiad amgylcheddol a nodi’r cyfleoedd hyn
- Yr ystod o arbenigwyr amgylcheddol sy’n bodoli o fewn a/neu’r tu allan i’ch sefydliad
- Eich rôl, eich cyfrifoldebau a therfynau eich awdurdod
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Rhoddir yr ymddygiadau canlynol yn ganllaw er mwyn bod yn sail i berfformiad effeithiol goruchwylydd ym maes lletygarwch
- Rydych chi’n adnabod newidiadau mewn amgylchiadau yn brydlon ac yn addasu cynlluniau a gweithgareddau yn unol â hynny
- Rydych chi’n cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo dealltwriaeth
- Rydych chi’n rhoi gwybod i bobl am gynlluniau a datblygiadau
- Rydych chi’n cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau’r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol, ac yn sicrhau bod eraill yn cydymffurfio â nhw
- Rydych chi’n gweithredu o fewn terfynau eich awdurdod
- Rydych chi’n effro i beryglon posibl
- Rydych chi’n rhyddhau gwybodaeth briodol yn brydlon i’r bobl sydd angen y wybodaeth ac sydd â hawl i’w chael
- Rydych chi’n annog pobl eraill i rannu gwybodaeth yn effeithlon, o fewn cyfyngiadau cyfrinachedd
- Rydych chi’n gwneud y defnydd gorau o adnoddau sydd ar gael ac yn ceisio ffynonellau cymorth newydd yn rhagweithiol, pan fydd angen
- Rydych chi’n nodi goblygiadau neu ganlyniadau sefyllfa
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon hon yn safon penodol i’r sector ac mae ganddi
gysylltiadau penodol â’r safonau canlynol yng nghyfres safonau Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch:
• HSL1
• HSL3
• HSL7
• HSL10
• HSL11
• HSL17
• HSL18
• HSL25
• HSL30